Archif Tymhorau 2008/09

Canlyniadau

 

Result of John Smiths Cwpan Gwynedd Cup Final
Tuesday 19th May 2009

Played at Caernarfon Town F C

BODEDERN ATHLETIC 1 v 4 LLANYSTUMDWY

Bodedern Athletic
Calvin Owen 76

Llanystumdwy
Idan Williams 45
Meirion Pritchard 67
Aled Lloyd 77
Bradley Williams 88

Saturday 16th May 2009
League matches 2.30pm
Beaumaris Town 2 v 5 Bethel
Sam Williams 25/36
Andrew Davies 50
Karl Roberts 57
Ioan Hughes 60

Tuesday 12th May 2009
League match
Holyhead Hotspur 2 v 1 Bethel
Jamie Whitemore 3
Holyhead Hotspur Reserves secure Runners-up spot

Saturday 9th May 2009
League matches
Blaenau Ffestiniog Amateurs 2 v 3 Bethel
Sam Williams 2
Jamie Whitemore 8/52

Bank Holiday Monday 4th May 2009
League match
Bodedern Athletic 3 v 1 Bethel
Ioan Hughes 10

Saturday 2nd May 2009
League matc
Bethel 3 v 2 Bodedern Athletic
Ioan Hughes 8/16
Emlyn Roberts 34

Tuesday 28th April 2009
League matches
Bethel 4 v 0 Bangor University
Bethel
Jamie Whitemore 8/32/63
Ioan Hughes 37

Mercher Ebrill 22 2009
League match
Bethel 3 v 1 Gaerwen
Jamie Whitemore 11/52
Terry Jones 29

Saturday 18th Ebrill 2009
Tarian Eryri Shield Round 2
Blaenau Ffestiniog Amateurs 2 v 0 Bethel

Mercher Ebrill 15 2009
League match
Bethel 1 v 3 Rhiwlas

Llun y Pasg Ebrill 11 2009
John Smiths Cwpan Gwynedd Semi Finals
Bethel 0 v 2 Bodedern Athletic

Sadwrn Ebrill 11 2009
The Black Dragon Gwynedd Premier Cup Semi Final
Blaenau Ffestiniog Amateurs 1 v 0 Bethel

Dydd Llun 6ed Ebrill 2009
League match
Llangefni Town 1 v 1 Bethel

Sadwrn 4ydd Ebrill 2009
League matches
Bethel 3 v 1 Beaumaris Town

Sadwrn 28ed Mawrth 2009
League matches
Bethel 2 v 4 Holyhead Hotspur

Saturday 21st March 2009
League matches
Bethel 6 v 3 Porthmadog

Saturday 14th March 2009
John Smiths Cwpan Gwynedd Cup Round 2
Real Llandudno 0 v 3 Bethel

Saturday 7th March 2009
NWCFA Intermediate Cup Quarter Final
Bethel 3 v 5 Gwalchmai

Saturday 28th February 2009
NWCFA Intermediate Cup Quarter Final
League matches
Bethel 13 v 1 Real Llandudno

Dydd Sadwrn 21 Chwefror 2009
League matches
Bethel 5 v 2 Gwalchmai

Dydd Sadwrn 14 Chwefror 2009
League matches
Bethel 5 v 1 Llanfairfechan Town

Dydd Sadwrn 31 Ionawr 2009
Bethel 4 v 4 Bontnewydd
Bethel won 6 – 4 after extra time

Dydd Sadwrn 17 Ionawr 2009
League matches
Bethel 1 v 5 Blaenau Ffestiniog Amateurs

 

YSTADEGAU DDIWEDD TYMOR

HOLL GYSTADLEUTHAU

P W D L F A
34 25 5 4 114 29

CANLYNIAD ORAU
13-0 VS FELINHELI (CYNGRHRAIR GWYRFAI)
COLLED FWYAF
3-0 VS HARROGATE RAILWAY (GEM GYFEILLGAR) A RHYL F.C. (N.W.C.F.A. CUP 3YDD ROWND)

ANRHYDEDDAU
PENCAMPWYR CYNGRHAIR GWYRFAI
PENCAMPWYR CWPAN CYNGRHAIR GWYRFAI
ENNILLWYR TWRNAMENT MOCHDRE

PRIF SGORWYR
DANIEL BELL 16
DYFAN COLES 15
RYAN JONES 13
GWION WILLIAMS 10
ALEX JONES 10
SAM WHITMORE 10
LOUIS WILLIAMS 10
GRUFFYDD JOHN 8
CAI ROSS JONES 5
DEAN HUGHES 4
ADAM HUGHES 3
JOE HOLDING 3
ASHLEY WILLIAMS 2
SION GRIFFITHS 2
AARON GWYN 1

CHWARAEWR Y FLWYDDYN
ASHLEY FRAZER

PLAYERS PLAYER OF THE SEASON (DDIM YN SAFF OR CYFIAETHIAD I HWN)
TOMOS EMLYN

 
Ash-player of the year,Dan-top scorer,Tom-players player of the year.
Cled & Susan-Post Bethel present captain Daniel Bell with new club warm up shirts
 
     
     
 
Bethel Blues treble winners 2008-09.
challenge cup winners 2009.
 

Tymor wedi ei effeithio gan anafiadau i sawl chwaraewr a wnaeth llwyddiant y tim yn fwy rhyfeddol. Diolch i'r hogiau i gyd am ei ymdrech ar peldroed gwefreiddiol a oedd yn bleser i'w wylio. Dymunwn yn dda i'r rhai fydd yn symud ymlaen i dimau dan 18 a prif dimau (ni fydd y stafell newid 'run fath hebddoch). I'r rhai sydd yn aros edrychwn ymlaen at eich gweld y tymor nesaf a disgwyliwn mwy or run peth. Hoffwn ddiolch i Iorweth (am refio), Andrew (y llimanwr ac am edrych ar ol y cae, Maldwyn (am ofal or cae) a Kathy a'r pwyllgor a diolch arbennig i Geraint (am gadwir wefan wedi ei diweddaru) a Carole (am yr holl yniau) a hefyd diolch mawr i'n noddwyd Cled a Susan, Post Bethel, C.L. Jones a Snowdonia Promotions. Ymddiheurwn os 'rydem wedi gadael rhywun allan.

Diolch i'n holl rhieni ar cefnogwyr am eich cefnogaeth drwy bob tywydd, 'rydem yn gwybod bod y'r hogia yn ei werthfawrogi. A felly i'r tymor nesaf ... byddem yn ail gychwyn ar Gae Coed Bolyn Nos Iau 30 o Orffenaf rhwng 6 a 7. Mae gennym gynlluniau mawr ar gyfer y tymor a gobeithiwn y bydd y bechgyn yn ei hoffi ond mwy am hynnu pan fyddem yn ail gychwyn.

Mwynhewch yr haf ddi beldroed
Paul ac Andy.


Tymor 2008/09

GWYRFAI LEAGUE - TABL TERFYNOL
 
Ch
E
Cyf
Coll
F
A
Pwyntiau
BETHEL GLAS
12
10
1
1
68
11
31
CAE GLYN UNITED
12
9
1
2
41
13
28
C.P.D. PENRHOSGARNEDD
12
9
0
3
52
21
27

TWRNAMENT MOCHDRE 7/6/09

 

Bethel Glas 1 v Shotton Steel 0 SCORIWR:D.Coles
Bethel Glas 1 v Cymru Hotspurs 0 SCORIWR:J.Holding.
Bethel Glas 1 v Manchester North End B 0 SCORIWR:A.Jones (pen).
Bethel Glas 0 v Llandudno F.C. 0

BETHEL ENNILLODD GRWP B

SEMI FINAL
Bethel Glas 1 v Warrington J.F.C. 0 SCORIWR:G.Jones
FINAL
Bethel Glas 1 v Manchester North End 0 SCORIWR:G.Jones


TWRNAMENT BLACKPOOL 24/25 MAI 2009

vs Furness
vs Tynemouth
vs Tynemouth

Bethel Glas 1 - Foxhall Juniors (Blackpool) 0 ht:1-0
SCORIWR:Dean Hughes.

Bethel Glas 2 v Tynemouth United (Whitley Bay) 1 ht:2-1
SCORWYR:Cai Ross Jones 2.

Bethel Glas 1 - Rothwell Town (Leeds) 0 ht:0-0
SCORWYR:Daniel Bell

Bethel Glas 3 - Yewdale Pegasus (Caerliwelydd) 0 ht:0-0
SCORWYR:Daniel Bell,Gwion Williams & Dean Hughes

Bethel Glas 2 - Christleton New Scene (Caer) 2 ht:0-1
SCORWYR:Cai Ross Jones & Gwion Williams

BETHEL ENNILLODD GRWP B

SEMI FINAL
Bethel Blues 0 v Furness Rovers (Barrow) 0 Collodd Bethel 5-4 ar benalties
SCORWYR Y PENALTIES:Daniel Bell,Gruffydd John,Tomos Emlyn a Alex Jones.


N.Vale v bethel
Bethel v Felinheli
Cliciwch y llun i'w chwyddo
Cliciwch y llun i'w chwyddo
   
Ysgol Brynrefail
Cliciwch y llun i'w chwyddo
 
Carfan Bethel 2008/2009
Cliciwch y llun i'w chwyddo
Bethel vs Bontnewydd
Bethel vs Cae Glyn
Bethel vs Harrogate
Cliciwch y lluniau i'w chwyddo
Enillwyr Cwpan Cynghrair Gwyrfai
Cliciwch y lluniau i'w chwyddo

Cwpan y Gyngrhair Rownd derfynol 28/5/09 (chwaraewyd ar yr Oval)

Bethel Glas 3 v Cae Glyn Unedig 2

Gem chyffroes a bythgofiadwy. Rheolodd y cofi's yr hanner cyntaf ond oedd rhaid disgwyl tan 5 mynud cyn yr egwyl cyn y gol gyntaf wedi i Bethel fethu clirio'r bel a sgoriodd Cae Glyn. 1-0 oedd hi ar yr hanner.

Gwaethygodd pethau i Fethel wedi ddim ond 5 munud o'r ail hanner wedi i'r amddiffyn fethu a delio a phel uchel i mewn i'r blwch a dyblwyd mantais Cae Glyn. Pum munud yn ddiweddarach trodd Gruffydd John y bel i'r rhwydd wedi pel ar draws y cae a newidiodd y gem i ffafriaeth y gleision. Hanner ffordd twy'r hanner pasiodd Daniel Bell y bel drwadd i Louis Williams a brasgamodd twy'r amddifyn i sgorio. Parhaodd y cofi's i greu problemau i amddiffyn Bethel, a dim ond arbediad dda gan Liam a gadwodd y sgor yn gyfartal. Ychydig yn ddiweddarach wedi gwrthdariad gyda Liam a chefnwr chwith Bethel, Ashley Frazer, gwelwyd Ash yn gadael y cae i fynd i'r ysbyty a cadarnhawyd ei fod wedi tori asgwrn yn ei ysgwydd (gwellad Buan Ash!). Daeth y gol buddugol wedi i Gwion Williams godi'r bel dros amddiffyn Cae Glyn i Dyfan Coles a sgoriodd drwy daro'r bel rhwng goesau'r golgeidwad. Am yr ail flwyddyn yn olynol, enniollodd Bethel y dwbl. Llongyfarchiadau!

  SCORWYR:Gruffydd John,Louis Williams a Dyfan Coles.

Cwpan y Gyngrhair Rownd Gyn derfynol 21/5/09

Bethel Glas 5 v Llewod Llanrug 0

Rhwystrodd Llanrug y gleision i ychydig iawn o gyflaeodd ond ar ol 20 munud, yn dilyn pass dda gan Daniel Bell llwyddodd Louis Williams i dorri mewn i'r blwch a saethu heibio gol geidwad y Llewod. Hanner amser 1-0

Parhaodd Llanrug i frwydro'n galed ond ar yr awr, saethodd Gruffydd John y bel i'r gornel uchaf ac wedi hynnu ddim ond 1 tim oedd ynddi. Gyda 20 munud ar ol, wedi cic hir gan golgeidwad Bethel Liam Williams, casglodd Daniel y bel a'i chodi dros y golgeidwad i wneud hi'n dair, a 5 munud yn ddiweddarach gyda'r un symudiad sgoriodd Daniel y pedwerydd, a daeth yr olaf reit ar y diwedd gan Sam Whitmore wedi symudiadau da.

Ar ol y gem cyflwynwyd Bethel gyda tlws y gynrghair.

SCORWYR:Daniel Bell 2,Louis Williams,Gruffydd John a Sam Whitmore.

CWPAN MINUTE MAID DAN 16 YSGOLION CYMRU GEM TERFYNOL 9/5/09
Stadiwm Y Seintiau Newydd. Stadiwm Park Hall.

Chwaraeuodd 6 or tim presenol a sawl gyn chwareuwr yn nhim Ysgol Brynrefail a gurodd ysgol gyfyn Barry o 3-0 yn y rownd derfynnol. I rai o'r bechgyn dyma oedd ei 3ydd ffeinal mewn pedwar mlynedd, cryn lwyddiant a hoffai'r bechgyn diolch yn fawr iawn i Mr Phil Holland a Mr Gareth Davies am ei holl waith caled. Da iawn Gruff,Gwi,Louis,Dan,Tom a Dyf's gan Paul ac Andy, 'rydem yn falch ohonoch!

Nos Lun 4 Mai 2009 - CYNGRHAIR GWYRFAI (Gem ddwbl)
Bethel Glas 13 - Felinheli 0
Ennillod Bethel y gynghrair ar fore glyb ar wyl y banc gyda fuddigoliaeth orau'r tymor. Sgoriol Louis Williams gyda foli ar ol dim on 2 funud ar ol gwaith da or chwith gan Sion Griffiths. Gwnaeth Sion hi'n 2-0 wedi 10 munud gyda chwip o ergyd a daeth y trydydd wedi symudiad clasurol or cefn i'r blaen gyda pass gwefreiddiol gan Daniel Bell i Dyfan Coles a aeth o amgylch y golgeidwad i rwydo. Sgoriodd Daniel ei hun gyda ergyd gadarn a roddod ddim siawns i'r golgeidwad a sgorioldd Dyfan ei ail cyn hanner amser wedi i'r golgeidwad fethu dal ergyd gan Gwion Williams. Hanner amser: 5-0

Yn y funud cyntaf or ail hanner sgoriodd Sion rhif 6, a saethodd Adam Hughes drwy ddwylo'r golgeidawd i wneud hi'n 7. Cafodd ergyd gan Gwion ei arbed gan y golgeidwad ond dilynnodd Alex Jones i wneud hi'n 8. Tarodd Adam y 9ed wedi pel dda ar draws y cae gan Daniel a gwnaeth Dan Whitmore hi'n 10. Tro Ashley Williams oedd hi wedyn wedi iddo benio croesiad Adam am ei gol gyntaf or tymor. Sgoriodd Ash ei ail yn fuan wedyn gyda ergyd ir gornel ar draws y golgeidwad a daeth y gol ddiwethaf wedi rhediad dda gan Gruffydd John a orffenwyd ganddo yn saethu heibio'r golgeidwad. Sgor terfynnol:13-0. Bydd y gwpan yn cael ei cyflwyno i'r tim yn noson wobrwyo'r clwb yn y Bedol mis Mehefin. Llongyfarchiadau mawr.

SCORWYR:Dyfan Coles 2,Sion Griffiths 2,Adam Hughes 2, Ashley Williams 2,Louis Williams,Daniel Bell,AlexJones,Sam                                     Whitmore a Gruffydd John.

Nos Iau 30 Ebril 2009
Bethel Blues 4 - Llandegfan 0 - Gem Gyfeillgar

Chwaraeuodd y gleision yr ymwelwyr mewn gem cyn ddechrau'r tymor ond y tro yma 'roedd yr ymwelwyr yn llawer mwy cystadleuol. Yn yr hanner cyntaf, methodd y tim cartref cyflymder a goliau Ryan Jones a fydd yn methu ddiwedd y tymor gyda anaf (gwellhad buan Ry)  ond wedi 28 munud llawyd y bel yn y cwrt a cosbodd Daniel Bell yr ymwelwyr or smotyn. Hanner amser 1-0.

Daeth yr ail hanner i fywyd yn y chwarter olaf wrth ir gleision chwarae ei gem cyfarwydd ac wedi 70 munud defnyddiodd Lewis Williams ei gryfder i ddarganfod lle a taro ergyd isel hebio golgeidwad Llandegfan. Gyda 8 munud ar ol penwyd gornel gan Daniel hebio'r golgeidwad gan Lewis eto a daeth gol orau'r gem gyda 5 munud yn weddill pan sylwodd Dnaiel y golgeidwad oddi ar ei linell a codi'r bel dros ei ben o ymyl y blwch. Sgor terfynnol 4-0

SCORWYR: Daniel Bell 2 (1 pen) a Louis Williams 2. 

Ar Ddydd Sul 24ain o Fai, bydd Bethel glas yn teithio i Blackpool i gystadlu yn un or prif dwrnamentau ieuenctid, a ennillwyd ganddom y llynnedd. 'Rydem yn chwilio am noddwyr i ariannu bws mini a chostau diesel ar gyfer y daith a chroesawn hefyd noddwyr ar gyfer tymor 2009/2010. Os hoffech gyfrannu i un o dimau mwyaf llwyddiannus ieuenctid cymru cysylltwch hefo Paul 07775731486 neu Andy 01248 670897. Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i'n noddwyr presenol sef C.L.JONES,CLED & SUSAN POST BETHEL a SNOWDONIA PROMOTIONS am ei cefnogaeth parhaol.

Nantlle Vale 1 - Bethel Glas 4
Dechreuodd Bethel yn araf ac yn amlwg yn ei chael hi'n annodd dygymod gyda'r cae calad anwastad a dalwyd nhw ar ol 3 munud yn unig pan darwyd gic rhydd i'r rhwyd gan Nantlle. Gweithiodd y gleision yn galed i ddod ar sgor yn gyfartal ond aethon nhw mewn ar yr egwyl 1-0 i lawr.

Dechreuodd yr ail hanner yr un mor ddi batrwm ar cyntaf ond cafodd y Gleision help llaw ar ol 8 munud, pan drodd un o amddiffynwyr Nantlle'r bel i'w rwyd ei hun. Wedi hynnu dechreuodd Bethel chwarae ei peldroed nodweddiadol a cafodd nhw ei haeddiant ar ol 15 munud pan darodd Daniel Bell foli i gefn y rhwyd o gic hir gan y golgeidawd Liam. Gyda'r pwysa i ffwrdd ildiodd Nantlle gic or smotyn wedi llawiad a gwnaeth Daniel ddim gangymeriad or smotyn. Daeth y gol olaf gyda 10 munud or diwedd pan gan gafodd croesiad Gwion William ei tharo ar hanner foli gan Ryan Jones i wneud y gem yn saff.

SCORWYR: 1 O.G,Daniel Bell 2, Ryan Jones.

Nos Wener 17 Ebril 2009 Gem Gyfeillgar
Academi Porthmadog 2 v Bethel Glas 2

Gwelodd y gem a gafodd ei chwarae ar noson glos yr ymwelwyr yn rheoli'r hanner cyntaf a cafodd Bethel sawl cyfle gyda Adam Hughes yn mynd yn agos yn gynnar yn y gem pan gurodd y golgeidwad ond yn taro'r traws. Pan ymosododd Port, 'roedd amddiffyn Bethel yn gadarn gyda Liam Williams y golgeidwad yn ei gem gyntaf nol yn wych. Hanner ffordd trwy'r gem aeth y gleision ar y blaen gyda gol haeddiannol pan benniodd Gruffydd John heibio'r golgeidawd o gic gornel Ryan Jones.

Hanner amser: 0-1

Parhaodd Bethel i fygwth gol y tim cartef yn yr ail hanner, ond pan dorodd un ymasodiad i lawr, 'roedd diffyg niferoedd yn y cefn gan Fethel a daeth Port yn gyfartal. 'Roedd yr academi nawr tipyn mwy amlwg a cawsem gic or smotyn dadleuol pan dyfarnwyd bod Liam wedi tynnu lawr un o ymosodwyr Port ac aeth Port ar y blaen. Blinnodd y chwaraewyr yn y gwres tuag ddiwedd y gem a gwnaethpwyd sawl newid, ac yn wir un o eilyddion y gleision a lwyddodd i unioni'r sgor, wedi brwydro brwd am y bel ar ymyl y cwrt tarodd Dean Hughes y bel yn isel i gefn y rhwyd. Wedi chwarae gwych ar y noson 'roedd yn annodd adnabod pa dim oedd yr academi a pa un oedd y clwb.

SCORWYR:Gruffydd John & Dean Hughes.

Dydd Sadwrn 28/3/09 Cwpan Cyngrair Gwyrfai rownd go gyn-derfynnol
Bethel Glas 6 - Bontnewydd 1
Mewn gwynt cryf aeth y tim cartef ar y blaen ar ol 20 munud pan lwyddodd cic uchelgeisiol gan Alex Jones i guro'r golgeidwad. Daeth Bont yn gyfartal pan darodd Ashley Frazer y bel heibio ei golgeidawd ei hun o gic rhydd. Aeth Bethel nol ar y blaen wedi rhediad a croesiad da gan Ryan Jones cafodd ei daro ar y hanner foli i'r rhwyd gan Sam Whitmore. Cyn y'r hanner gofynnwyd i un o dim Bont adael y cau wedi "foul" ar Gwion Willims.

Hanner amser: 2-1

Llwyr rheolodd Bethel yr ail hanner a caswon ei haeddiant pan cafodd gic rhydd Gwion ei wyrio allan gan y golgeidwad yn syth i Sam am ei ail. Sgorio Ryan u pedwerydd gyda cic ar draws y golgeidwad wedi bel wych gan Daniel Bell. Daeth pumped Bethel gan ergyd wych Gwion a sgoriodd Dean Hughes y chweched gyda bach o help gan y gwynt, ei gyntaf y tymor yma.

SCORWYR:Sam Whitmore 2,Alex Jones,Ryan Jones,Gwion Williams a Dean Hughes.

Dydd Sadwrn 21/3/09 Cynghrair Gwyrfai
Cae Glyn United 2 V Bethel Glas 2
Gem fawr rhwng 2 or 3 uchaf. Cae Glyn reolodd or cychwyn a cawsom nhw ei haeddiant pan ddarganfyddodd Jamie McDaid ei hun new lle a saethu i gornel y rhwyd, modfeddi o afael Louis Williams. Defrodd hyn Bethel a cawsom nhw sawl cyfle a taro'r pyst ddwy waith cyn y hanner.

hanner amser:1-0

Rheolodd Bethel ddechrau'r ail hanner a soriodd Gruffydd John o gic cornel i unioni pethau. Parhaodd Bethel i ymosod ond yn erbyn llif y chwarae cafodd y tim cartref gic rhydd ar yr ochr dde, a trawodd Tim Cavanagh bel dros ben y golgeidwad. Cafodd Bethel gyfle ar ol cyfle i sgorio, ond gyda ddim ond 5 munud yn weddill, sgoriodd Gwion Williams o gic rhydd i'r gornel uchaf.

Sgor terfynnol: 2-2

SCORWYR: Gruffydd John & Gwion Williams.

Ar Ddydd Mawrth 10ed Fawrth, teithiodd 6 o dim Bethel gyda Ysgol Brynrefail i Aberfan yn Ne Cymru i chwarae Ysgol Afan Taf yn rownd go gynderfynol Cwpan Cymru i flynyddoedd 10/11. Ennillodd yr hogia 5-0 ac mae'n nawr yn disgwyl i weld pwy fydda'n yn chwarae yn y rownd gyn derefynol. Da iawn i Daniel Bell,Louis Williams,Dyfan Coles,Gruffydd John,Gwion Williams a Tomos Emlyn. Llongyfarchiadau hefyd i Adam Hughes a Gruffydd John,am gael ei dewis i ymarfer gyda carfan bechgyn Gogledd Cymru.

Dydd Sadwrn 7/3/09 Cynghrair Gwyrfai
Penrhosgarnedd 1 - Bethel 3

Gwelodd y gem rhwng y ddau dim ar y brig yr ymwelwyr yn rheoli ar gychwyn y gem a llwyddodd Ryan Jones i ddanganfod cefn y rhwyd gyda ergyd isel wedi gwaith da gan Alex Jones. Methodd Bethel sawn cyfle wedi hynnu, a doedd yn fawr o syndod pan darodd Penrhos yn ol wedi croesiad or dde ac yr aeth y timau i fewn yn gyfartal 1-1 ar yr egwyl.
Gwelodd ddechrau'r ail hanner Penrhos yn fwy amlwg ond y tim oddi cartref oedd yn chwarae'r peldroed gorau, a daeth ail gol Bethel pan ennilodd Daniel Bell y bel yn nghanol y cae a chroesi or linell gol i Dyfan Coles rwydo. Pwysodd Penrhos i geisio'r unioni'r sgor ond safodd amddiffyn Bethel yn gadarn, ac wedi symudiad da llwyddodd Ryan i sgorio ei ail gol gyda ergyd isel ar draws y golgeidwad. Sgor terfynol 1 -3.

SCORWYR: Ryan Jones (2), Dyfan Coles

 

Dydd Sadwrn 28/02/09 Cynghrair Gwyrfai
Bethel 3 - Nantlle Vale 0

Hanner cyntaf cystadleuol cyn i Ryan Jones rwydo i Fethel o groesiad gan Daniel Bell. Parhaodd y fantais i Fethel diolch i berfformiad cadarn gan gol geidwad llanw Bethel, Louis Williams.

Newidiodd y Gleision i 5 yng nghanol y cae ar gyfer yr ail hanner, a gwnaeth hyn hi'n anodd i Nantlle greu cyfleodd. 'Roedd yn rhyddhad i Fethel pan benniodd Daniel Bell i'r rhwyd wedi croesiad o gic rydd Gwion Williams, ac wedi hynny chwaraeodd yr hogiau ei gem basio arferol gyda'r asgellwyr Alex a Ryan Jones yn wych, ac yn wir o gic gornel gan Ryan seliodd Bethel y pwyntiau gyda pheniad gan yr ymosodwr Dyfan Coles.

Seren y gêm: Tad Joe Holding wedi iddo ddeifio i'r Fenai i achub y peli. Diolch Jamie.

SGORWYR: Ryan Jones, Daniel Bell, Dyfan Coles.

 

Dydd Mawrth 30/12/08 Cynghrhair Gwyrfai
Bethel 7 - Llanrug 0
SGORWYR: Louis Williams,Ryan Jones,Sam Whitmore,Alex Jones,Daniel Bell,2 o.g.s

Dydd Sadwrn 6/12/08 Cwpan n.w.c.f.a. rd 3
Bethel 0 - Rhyl F.C. 3

Dydd Sadwrn 15/11/08 Cwpan n.w.c.f.a. rd 2
Bethel 6 - Flint & Bagillt 3
SCORWYR: Gwion Williams 2,Daniel Bell,Dyfan Coles,Ryan Jones,Sam Whitmore.

Dydd Sadwrn 1/11/08 Cynghrhair Gwyrfai
Bontnewydd 0 - Bethel 5
SCORWYR: Daniel Bell,Ryan Jones 2,Dyfan Coles,Alex Jones.

Dydd Sadwrn 25/10/08 Cynghrhair Gwyrfai
Llanrug 1 - Bethel 7
SCORWYR: Alex Jones 2,Ryan Jones,Dyfan Coles,Joe Holding,Sam Whitmore,1 o.g.

Dydd Sadwrn 27/9/08 Cynghrhair Gwyrfai
Bethel 4 - Cae Glyn Utd 1
SCORWYR: Louis Williams 2,Alex Jones,Gwion Williams.

Dydd Sadwrn 20/9/08 Cynghrhair Gwyrfai
Bethel 3 - Bontnewydd 0
SCORWYR: Gwion Williams,Ryan Jones,Dyfan Coles.

Dydd Sadwrn 13/9/08 Cynghrhair Gwyrfai
Bethel 4 - Penrhosgarnedd 5
SCORWYR: Daniel Bell (pen),Joe Holding,Gwion Williams,Ryan Jones.

Nos Fawrth 2/9/08 Gem Gyfeillgar
Llangefni 0 - Bethel 4
SCORWYR: Louis Williams,Daniel Bell,Ryan Jones,Gruff John.

Nos Wener 29/8/08 Gem Gyfeillgar
Bethel 0 - Harrogate Railway Jnrs 3

Dydd Sadwrn 23/8/08 Gem Gyfeillgar
Betel 4 - Menai Bridge Tigers 4
SCORWYR: Sam Whitmore,Dyfan Coles,Cai Jones,Gwion Williams

Dydd Mercher 20/8/08 Gem Gyfeillgar
Llandegfan 0 - Bethel 12
SCORWYR: Dyfan Coles 4,Sam Whitmore 2,Gruff John,Arron Gwyn,Cai Jones,Tomos Emlyn, Adam Hughes,Alex Jones (pen).

Nos Iau 30 Ebrill 2009
Bethel 5 - Felinheli 0
SGOWRYR: Gwion John 1, ALaw 1, Mathew Jones 2, Sion Alun 1.
Seren y gem - Mathew.

Dydd Sadwrn 25 Ebril 2009
Segontiwm A1 1 - Bethel 2
SGORWYR: Alaw, Mathew Jones

Nos Iau 23 Ebril 2009
Bethel 0 - Llanrug 3

Dydd Sadwrn 18 Ebril 2009
Bontnewydd 5 - Bethel 0

Dydd Sadwrn 11 Ebrill 2009
Segontiwm A2 2 - Bethel 3
SGORWYR: Gwion John (2), Sion Alun

Dydd Sadwrn 06/12/2008
Bethel 3 - Segontiwm A1 5

Dydd Sadwrn 22/11/2008
Bethel 7 - Segontiwm A2 0

Dydd Sadwrn 15/11/2008
Nantlle 7 - Bethel 1

Dydd Sadwrn 18/10/2008
Penrhos 2 - Bethel 5

Dydd Sadwrn 11/10/2008
Llanrug 3 - Bethel 2

Dydd Sadwrn 04/10/2008
Bethel 3 - Llanllyfni 3

Dydd Sadwrn 27/9/08
Cae Glyn 2 - Bethel 4


Carfannau Bethel 2008/2009
Cliciwch y lluniau i'w chwyddo

 

Tymor 2008/09


Twrnament Eco’r Wyddfa nos Lun 29/06/09

Roedd gan Bethel ddau dim yn y twrnament – Bethel ‘A’ ac Bethel ‘B’.
'Roedd 6 tim yn cystadlu a chwaraeuodd pob tim ei gilydd. Llwyddod Bethel 'A' i gyrraedd y rownd gyn-derfynol ond methodd Bethel 'B' fynd drwadd ar wahaniath goliau.
Yn erbyn Llanrug oedd Bethel 'A' yn chwarae ac wedi gem hynod gystadleuol gorffenodd hi'n 1-1 gyda Shaun Owen yn sgorio i Fethel. Wedi amser ychwanegol llwydodd Bethel i guro gyda gol aur gan Ifan Gwynn. Deiniolen oedd y gwrthwynebwyr yn y rownd derfynol a Deiniolen oedd yn fuddugol o 1-0 wedi gem gystadleuol ond rhaid canmol perfformiadau gwych Bethel yn ystod y noson.

Canlyniadau Diweddaraf

Nos Fercher 20 Mai 2009
Penrhos 1 - Bethel 2
SGORWYR: Ifan Gwynn, Iwan Parry

Twrnament Cae Glyn 15 Mai 2009
Bu'r tim dan 9A yn cystadlu yn nhwrnament Cae Glyn
Canlyniadau:
Bethel 0 - Cae Glyn A1 2
Bethel 3 - Cae Glyn A2 0
Bethel 3 - Nantlle Vale B 0
Bethel 1 - Bontnewydd 0
Bethel 2 - Llanrug 2
Yn anffodus methodd Bethel allan ar le yn y rownd gyn derfynnol ond gwellodd y perfformiadau wrth i'r diwrnod fynd ymlaen. Da iawn.

Dydd Sadwrn 15 Mai 2009
Bethel B 3 - Bontnewydd B 2
SCORWYR: Ruben James, Gethin Jones (2)

Nos Fercher 13 Mai 2009
Bethel B 5 - Penrhosgarnedd B 0
SCORWYR: Owain Thomas (2), Ruben James, Gethin Jones, 1 o.g.

Dydd Sadwrn 10 Mai 2009
Bethel B 1 - Llandwrog 0
SCORIWR: Sam Williams

Nos Fercher 6 Mai 2009
Bethel A 1 - Deiniolen 0
SGORIWR: Shaun Owen

Dyss Sadwrn 2 Mai 2009
Segontiwm B 1 - Bethel B 1
SCORER: Ruben James

Nos Lun 27 Ebrill 2009
Bethel A 1 - Llanrug 5
SGORIWR: Ifan Gwynn

Bethel B 1 - Llanrug B 1
SGORIWR: Ruben James

Dydd Sadwrn 25 Ebrill 2009
Segontiwm A 0 - Bethel A 5
SGORWYR: Shaun (3), Ben, Iwan

Nos Iau 23 Ebril 2009
Bontnewydd A 2 - Bethel A 3
SGORWYR: Shaun (2), og
Bontnewydd B 1 - Bethel B - 3
SGORWYR: Ruben (2), Gethin

Dydd Sadwrn 4/4/09
Bethel B 1 - Nantlle Vale B 2
SCORIWR: Huw
Bethel A 1 - Nantlle Vale A 0
SCORIWR: Sion

Dydd Sadwrn 28/3/2009
Llandwrog 0 - Bethel B 0
Waunfawr 0 - Bethel A 4
SGORWYR: Ben, Ifan, Tomos, Sion

Dydd Sadwrn 21 Mawrth 2009
Bethel A 4 - Penrhos 0
SGORWYR: Ben (2), Ifan, Iwan
Bethel B 0 - Felinheli 2

Dydd Sadwrrn 14/3/09
Llanrug B 1 - Bethel B 0

Dydd Sadwrn 7/3/09
Llanberis 3 - Bethel B 0

Sadwrn 28/02/09
Bethel A 0 - Cae Glyn A - 2
Bethel B 0 - Cae Glyn B - 0

Sadwrn 06 Rhagfyr 2008
Bethel B 0 - Segontiwm B 2

Sadwrn 29ain o Dachwedd 2008
Bethel A 2 - Bontnewydd A 0
SGORWYR: Shaun Owen, Iwan Parry

Sadwrn 22ain o Dachwedd 2008
Deiniolen 1 Bethel A 0

Sadwrn 15ed o Dachwedd 2008
Nantlle Vale A 3 - Bethel A 2
SGORWYR: Ifan Gwynn, Sion Bullock
Nantlle Vale B 2 - Bethel B 0

Sadwrn 18 Hydref 2008
Felinheli B 2 - Bethel B 6
SGORWYR: Ruben James (3), Gethin Jones, Nathan Hughes, Rhys Roberts

Sadwrn 11 Hydref 2008
Bethel A 0 - Llewod Llanrug A 3

Dydd Sadwrn 04 Hydref 2008
Bethel B 0 - Llanberis 1

Dydd Iau 02 Hydref 2008
Bethel A 5 - Felinheli A 0
SGORWYR: Shaun Owen (2), Ifan Gwynn , Ben Jones, Tomos Grffiths

Dydd Sadwrn 27 Medi 2008
Cae Glyn A 2 - Bethel A - 1
SGORIWR Shaun Owen
Cae Glyn B 1 - Bethel B 2
SGORWYR: Gethin Jones, Owain Thomas

Dydd Mercher Medi 24 2008
Felinheli A 0 - Bethel A 6
SGORWYR: Jack Owen (2), Shaun Owen (2), Iwan Parry, Osian ap Sion

Croeso i dudalen y timau dan 9 a'u hanes y tymor hwn. Diolch i'r rheolwyr a'r hyfforddwyr am eu gwaith caled gyda nhw.

Canlyniadau

Twrnament Trefor Dydd Sadwrn Mehefin 14 2008

Bethel A 0 – Llanystumdwy 0

Bethel A 0 - Nantlle Gwyrdd 2

Bethel A 2 - 0 Y Ffor
Gwion John, Mathew Lloyd

Bethel A 2 - 0 Llanrug
1 og, Ifan Gwynne

Bethel A 2 - 0 Penrhyn Bay
Ifan Gwynne, Mattew Lloyd

Bethel A 1 - 1 Llangefni
Sion A


Twrnament Gwyrfai dan 9 oed Dydd Sadwrn Mehefin 7fed
Canlyniadau Bethel A

Bethel A 1 Bontnewydd 0
SGORIWR: Matthew Lloyd

Bethel A 0 Cae Glyn 3

Bethel A 4 Llanrug 0
SGORWYR: Gwion John 2 Shaun Owen Matthew Lloyd

Bethel A 1 Penrhosgarnedd 1
SGORIWR: Sion Alun

Bethel A 1 Segontium 1
SGORIWR: Gwion John

Ffeinal
Bethel A 0 Cae Glyn 1

Llongyfarchiadau i’r tim am wneud mor dda.


Dydd Sadwrn Ebrill 26
Segontiwm A 4 - Bethel A 0

Segontiwm B 6 - Bethel B 1
Sgoriwr: Sion Bullock


Dydd Sadwrn Ebrill 12
Bethel A 2 - 1 Felinheli A
Gwion John yn sgorio’r 2 gol i Fethel.


Nos Iau Ebrill 24
Bontnewydd A 1 – Bethel A 0


Dydd Sadwrn, Ebrill 5ed 2008
Bethel A 0 - Nantlle Vale A 7
Bethel B 0 - Nantlle Vale B 6


Dydd Sadwrn, Mawrth 15fed 2008
Deiniolen 5 - Bethel B 0
Llanberis 3 - Bethel A 1 ( Shaun Owen )


Dydd Sadwrn, Mawrth 8fed 2008
Bethel A 1 - Penrhosgarnedd 1
SGORIWR: Matthew Lloyd


Dydd Sadwrn, Mawrth 1af 2008
Llanrug A 2 - Bethel A 4
SGORWYR: Gwion John 3, Ifan Gwynne 1
                                          
Llanrug B 6 - Bethel B 0


Dydd Sadwrn, 2il o Chwefror 2007
Bethel A 0 - Cae Glyn A 4
Bethel B 0 - Cae Glyn B 2


Dydd Sadwrn Rhagfyr 1af 2007
Bethel A 0 - Segontium A 0
Bethel B 0 - Segontium B 3


Dydd Sadwrn, 10fed o Dachwedd
Nantlle Vale A 2  - Bethel A 0

Nantlle Vale B 6  - Bethel B 1
Ifan Gwynne yn sgorio i Fethel


Dydd Sadwrn, Hydref 27ain
Felinheli 2 - Bethel A 6
SGORWYR: Gwion John - 2, Ifan Gwynne, Matthew Lloyd, Ben Jones, O.G.


Dydd Sadwrn, Hydref 20fed
Bethel B 2 - Deiniolen 7
SGORWYR: Gwion John a Matthew Lloyd


Dydd Sadwrn, Hydref 13eg
Penrhosgarnedd 1 - Bethel A 7
SGORWYR: Ifan Gwynne 3, Matthew Lloyd 2, Gwion John 2

Felinheli B 7 - Bethel B 0


Dydd Sadwrn, Hydref 6ed
Bethel A 2  - Llanrug A 2
SGORWYR: Gwion John ac Ifan Gwynne


Dydd Sadwrn 29-Medi-2007
Bethel B 0 - Waunfawr B 2


Dydd Sadwrn 22-Medi-2007
Cae Glyn A 3 - Bethel A 0
Cae Glyn B 3 - Bethel B 0

 

 

Carfan Bethel 2008/2009
Cliciwch y llun i'w chwyddo

Tymor 2008/09

Twrnament Eco’r Wyddfa nos Fawrth 23/06/09
Roedd gan Bethel ddau dim yn y twrnament – Bethel ‘A’ ac Bethel ‘B’.
Roedd Bethel ‘A’ yng nghrwp 1. Chwarae tair gem a churo y dair – yn erbyn Deiniolen, Llanberis ac Llanrug ‘B’.
Roedd Bethel ‘B’ yng nghrwp 2. Chwarae dwy gem, colli mewn gem agos yn erbyn Llanrug ‘A’ o ddwy gol i un. Yna gem gyfartal yn erbyn Waunfawr, un yr un.
Aeth y ddau dim drwodd o’i grwpiau. Chwaraeodd Bethel ‘B’ Deiniolen yn y rownd nesaf a churo tair gol i ddim. Roedd hyn yn golygu fod Bethel ‘A’ yn erbyn Bethel ‘B’ yn y rownd gyn derfynol. Ar ol gem Andros o chystadleuol a chaled, Bethel ‘A’ oedd yn fuddigol.
Llanrug ‘A’ oedd y gwrthwynebwyr yn yr rownd derfynol, ac ar ol chwarae gem galed eto, Bethel oedd yn fuddigol o dair gol i ddim.
Llongyfarchiadau i’r tim. Yn ychwanegol rhaid canmol Bethel ‘B’ am wneud mor dda yn y twrnament.
Daliwch i gyd i ymarfer dros yr haf, mi welwn chi yn mis Medi.


Twrnament Trefor Dydd Sadwrn 13/06/09


Mi roedd y twrnament yma yn gyfle i’r tim chwarae yn erbyn timau nad oeddynt wedi dod ar eu traws o’r blaen. Roedd y gemau agoriadol yn y grwp o ansawdd uchel iawn. Chwaraeodd y tim yn dda iawn, gan golli un gem yn unig yn erbyn Nefyn. Aeth y tim drowodd yn yr ail safle yn y grwp. Dyma’r canlyniadau:

Bethel 5 Llanfairpwll B 0
Bethel 3 Pwllheli 0
Bethel 1 Bro Enlli 0
Bethel 0 Nefyn 1
Bethel 3 Nantlle Vale 0
Bethel 1 Llanystumdwy A 0
(Rownd Gyn-derfynol)

Roedd hon yn gem dda iawn a chystadleuol. Cymerodd hi gol andros o dda gan Huw er mwyn sicrhau buddigoliaeth:

Bethel 1 Pwllheli A 0

(Rownd derfynol)
Nefyn oedd y gwrthwynebwyr am yr ail waith. Gwahanol oedd y canlyniad y tro yma. Chwaraeodd y tim cyn gystal ac yr wyf wedi eu gweld y tymor yma, yn erbyn tim a oedd yn fwy o faint yn gorfforol. Roedd hwn yn ganlyniad ardderchog. Da iawn pob un aelod o’r garfan. Callun ac Huw a sgoriodd i ennill y twrnament i Bethel.

Bethel 2 Nefyn 0

Pencampwyr twrnament Trefor 2009


2009 - Bethel dan 7 Pencampwyr Twrnament Felinheli a Twrnament Gwyrfai

Tim dan 7 - Pencampwyr twrnament Gwyrfai 2009

Twrnament Gwyrfai Dydd Sadwrn 30/05/09 (yn Pen-y-Groes)

Roedd y timau wedi cael eu rhannu i ddau grwp, ac roedd y pedwar tim gorau drwy’r flwyddyn yn yr un grwp, gan gynnwys Bethel. Dyma canlyniadau y grwp:

Bethel 0 Penrhos 1

Bethel 1 Segontiwm 1

Bethel 2 Llandwrog 0

Bethel 5 Waunfawr 0

Bethel 2 Cae glyn 1

Ar ol dechrau araf mi wellodd safon y chwarae. Roedd y tim yn pasio yn dda iawn ac yn pwyso y gwrthwynebwyr. Roedd y gem olaf yn y grwp yn erbyn Cae Glyn, yn arbennig o dda. Ar ol ildio gol, fe ddaeth y tim yn ol yn gryf iawn i ennill y gem. Bethel enilliodd y grwp gyda Penrhos yn ail.

Yn y rownd gyn-derfynol, Nantlle Vale oedd y gwrthwynebwyr. Curo wnaeth y tim o 2 gol i 0. Roedd hon hefyd yn gem dda o safon uchel gyda’r tim yn pasio yn dda ar adegau.

Yn y rownd derfynol, Penrhos oedd y gwrthwynebwyr am yr ail waith yn ystod y dydd. Mi chwaraeodd Bethel yn llawer iawn gwell y tro yma. Er fod y gem yn gystadleuol iawn, Bethel a enilliodd o 1 gol i 0. Callum sgoriodd y gol fuddigol.

Unwaith eto, llwyddiant ysgubol i’r tim.


Twrnament Cae Glyn 16/05/2009

Twrnament cystadleuol ac llwyddianus iawn unwaith eto. Fe enilliodd y tim eu grwp gan chwarae y gemau canlynol:

Bethel 5 Llewod Llanrug 1
Bethel 3 Penrhosgarnedd B 0
Bethel 2 Cae Glyn B 0

Yn y Q/finals curo Penrhosgarnedd A 2-0, a churo Segontiwm Rovers 4-0 yn y gem gyn-derfynol. Cae Glyn A oedd y gwrthwynebwyr unwaith eto yn y gem derfynol. Yn anffodus y tro yma, Cae Glyn A aeth a hi o 2-1.

Rhaid canmol y tim unwaith eto. Fe chwaraeodd y tim yn arbennig o dda, gan ystyried y tywydd difrifol ar adegau. Pwy a wyr, heb y gwynt cryf a gododd ar ddecchrau'r ail hanner yn y rownd derfynol, gallai y canlyniad fod wedi bod yn wahanol. Rhaid rhoi canmoliaeth ychwanegol i Kyle am wneud mor dda yn y gol (tro cyntaf uddo chwarae yn y safle) oherwydd absennoldeb Gwyndaf.

Da iawn pob un ohonoch.


Twrnament o dan 7 Felinheli Dydd Sadwrn Ebrill 25, 2009



Enilliodd Bethel ei grwp gan guro y timau canlynol:

Celtiaid Llangefni o 1-0 (gem galed a chysdaleuol iawn)
Celtiaid Llanfairpwll 1 o 3-1
Cae Glyn o 1-0
Penrhos o 1-0
Bontnewydd 2 o 4-0
Segontiwm o 5-0

Yn y rownd gyn derfynol, llwyddodd Bethel i guro Celtiaid Llanfairpwll 2 o 2-0. Yn y rownd derfynol yn erbyn Cae Glyn unwaith eto, gyda gol gan Owain, fe guroedd y tim y gem ar twrnament o 1-0. Roedd y tim yn chwarae yn arbennig o dda, gan basio y bel o un pen i'r cae i'r pen arall yn gywir. Roedd yr tim yn llwyr haeddu ennill a chael dipyn bach o lwyddiant ar ddiwedd tymor llwyddianus iawn. Da iawn pob un ohonynt. Mi wnaeth pob un o'r 10 aelod o'r garfan gyfrannu i lwyddiant y tim.


Dydd Sadwrn 11/4/2009
Bontnewydd 1 - Bethel 4
SGORWYR: Owain 3, Callum 1

Nos Iau 8/4/2009
Bethel 3 Segontiwm 0
SGORWYR: Huw 2, Owain 1

Dydd Sadwrn 4/4/09
Bethel 8 - Waunfawr 0
SCORWYR: Owain (4), Huw (3), Josh

Nos Iau 2/4/09
Cae Glyn 1 - Bethel 0

Dydd Sadwrn 28/3/09
Bethel 6 - Deiniolen 0
SCORWYR: Callum (3), Iolo, Owain, Huw

Dydd Sadwrn 21 Mawrth
Felinheli 0 - Bethel 6
SGORWYR: Callum (3), Huw, Josh a og.

Dydd Sadwrn 14/3/09
Bethel 5 - Nantlle Vale 0
SGORWYR: Huw (2), Callum, Josh, Cai

Dydd Sadwrn 7/3/09
Bethel 3 - Penrhosgarnedd 1
SGORWYR: Callum (2), Huw

Dydd Sadwrn 28/02/09
Segontiwm 0 - Bethel 1
SGORIWR: Huw Gwynn

Dydd Sadwrn 31/1/09 Bethel 6 - Bontnewydd 0
SGORWYR: Callum (5), Cai

Dydd Sadwrn 24/1/09 Llandwrog 0 - Bethel 4
SGORWYR: Iolo, Owain (2), Callum

Dydd Sadwrn 17/1/08 Bethel 6 v Llanberis 0

Dydd Sadwrn 7/12/08 Deiniolen 0 v Bethel 4

Dydd Sadwrn 30/11/08 Bethel 8 v Felinheli 0

Dydd Sadwrn 23/11/08 Nantlle Vale 0 v Bethel 7

Dydd Sadwrn 15/11/08 Penrhos 0 v Bethel 2

Dydd Sadwrn 18/10/08 Bethel 2 v Llanrug 0

Dydd Sadwrn 4/10/08 Bethel 3 v Llandwrog 0

Dydd Sadwrn 27/9/08 Llanberis 0 v Bethel 10

Dydd Sadwrn 20/9/08 Bethel 0 v Cae Glyn 1