Adroddiadau
Clwb Pel Droed Bethel Football Club
Canlyniadau/Results Dydd Sadwrn, Hydref 30ain Dan 9/ Under 9's Cae Glyn 'A' 0 Bethel 'A' 1 - Gol yn yr ail hanner gan Guto Griffiths yn setlo gem wedi i Bethel greu sawl cyfle am gol. A second half gol by Guto Griffiths finally settled this match which saw Bethel create a number of scoring opportunities.
16.9.05
Deiniolen 2 Bethel 8 ~ Dan 13eg
Cafwyd gêm gyfeillgar cyn i'r gynghrair oddifrif ddechrau gyda thîm newydd
sbon yn dod ynghyd dan reolwr profiadol Bethel, Andrew Williams.
Roedd y ddau dîm yn chwarae pêl-droed o safon arbennig o feddwl mai dyma'r
tro cyntaf '?r rhan fwyaf ohonynt chwarae'r gêm unarddeg bob ochr. Sgoriwyd
i Fethel gan Gruffydd John (2), Dyfan Coles, Steffan Bullock (2), Ellis Deemer
ac Adam Hughes (2).
Mae Andrew yn edrych ymlaen i weld perfformiadau tebyg yn ystod y tymor sydd i ddod.
Bethel 3 Llanrug 1 ~ Dan 9
Pêl-droed llawn rhedeg a thaclo a gafwyd ar gae Coed Bolyn fore Sadwrn diwethaf
gyda thîm Maldwyn John yn dangos y byddent yn anodd iawn i'w curo yn ystdod
y tymor hwn. Gyda'r sgôr ynghlwm ar un i un ar yr hanner brwydrodd Bethel
yn galed i ennill yr ail hanner o ddwy gôl i ddim gan sicrhau cychwyn llwyddiannus
i'r tymor.
Twrnament Nantlle
1/5/05
Dan 9
Bethel A colli yn y ffeinal ar penaltis i Dyffryn Nantlle
Twrnament Bontnewydd
14/5/05
Dan 9
Bethel A yn curo'r ffeinal 1 - 0 yn erbyn Bontnewydd. Iwan Williams yn sgorio'r gol buddugol.
Dan 11
Bethel A yn curo'r ffeinal 1 - 0 yn erbyn Bae Cemaes. Mathew Edwards yn sgorio'r gol buddugol
Sadrwn/Saturday 12/03/05
Dan 9
Bethel 2 v Penrhos 0
Buddugoliaeth da i'r hogiau mewn gem agos a chaled. Y sgorwyr oedd Corry Williams a gol yn rhwyd ei hun gan un o amddiffynwyr Penrhos
8.2.05
O dan 17/Under 17s
Adroddiadau o 4 gem wedi eich chwarae ers 01/01/2005
Bethel 2 Llangefni 4
Dechrau gwael gan yr hogia yn ildio 2 gol yn y deg munud cyntaf. Steven davies yn cael yn ol yn syth ond cefni yn sgorio dwy arall cyn hanner amser, perfformiad campus yn yr ail hanner gan y tim i gyd ond dim ond un gol arall gan steven i ddangos am yr ymdrech.
Bethel 5 Holyhead 9
Gem wael gan y chwaraewr er iddynt fod yn gyfartal 3-3 ar hanner amser.Dwy gol i Jamie Whitmore ag un i Steven Davies. Diffyg canolbwynto yn yr ail hanner yn ildio 6 gol fler i Caergybi. Dyfal barhad y tim yn dol a gol arall i Jamie ag 1 i Dafydd Meredydd. Rheolwr ddim yn hapus gyn perfformiad sala y tymor.
Bethel 4 Menai Tigers 1
Gem gwpan cynghrair 17 gyntaf erioed i clwb peldroed a buddigoliaeth dda ar gae trwm. Dechrau sal ir tim drwy fynd un gol i lawr ond calon yn cael ei ddangos a dwy gol Steven Davies yn ei rhoi ar y blaen ar hanner amser. Goliau gan Jamie Whitmore a Dafydd Meredydd yn yr ail hanner yn gwneud y gem yn saff. Dyfarnu campus gan Richard (colina) jones.Rheolwr Maldwyn Hughes yn dweud mae perfformiad gorau hyd yma gan y garfan.
29/01/2005
Bethel 5 Amlwch 4
Gem gyffroes iawn ar gae trwm. Dwy gol Steven Davies yn rhoi dechrau da ir tim ond amlwch yn brwydro yn ol i sgorio yn syth wedyn. Cyn hanner amser iwan morris yn ei gwneud yn 3-1. Pan sgoriodd Steven Davies ei drydydd a pedwerydd y tim yr oedd i weld ar ben ar amlwch. Ond pob clod iddynt am frwydro yn ol a sgorio tair gol mewn deg munud i wneud y sgor yn 4-4. Pum munud or diwedd sgoriodd steven ei bedwerudd. Fe fydd rhaid i Sion Llyr wneud ambell arbediad wedyn i gadw y sgor yn 5-4 ir tim cartref. Dyfarnwr Richard Jones yn brysur yn cadw sgor a Maldwyn yn heneiddio os gaiff o fwy o gemau fel hyn.
Mae y rheolwr yn hapus gydar garfan sydd yn dangos calon mewn bob gem ac hefyd yn troi i fynu i ymarfer bob wythnos.
Sadwrn/Saturday 18/12/04
Dynion/Seniors
Bethel 3 v Nantlle Vale 0
(Darren Ellis, Gareth Williams, Barry Lund)
Dan 9 Coch/Under 9s Red
Bethel 1 v Segontiwm 1
Gem galed iawn i'r hogiau yn erbyn tim da - Sgor teg yn y diwedd.
Sadwrn/Saturday 11/12/04
Dynion
Bethel 1 v Nefyn 5
Dan 9 Coch
Bontnewydd 1 v Bethel 3
Sgorwyr i Fethel oedd Morgan Williams, Corry Williams a gol yn rhwyd ei hun gan ammddiffynwr bont.