Jump to Main Content

Croeso

Croeso i wefan Clwb Pêl-droed Bethel, enillwyr Cwpan y Gynghrair (dan 13 oed) 2007, enillwyr Cynghrair Gwyrfai (dan 13 oed) 2007, enillwyr Cwpan Con X Cymru Caergybi (dan 13 oed) 2007, enillwyr Twrnament Eco’r Wyddfa (Dan 11 oed - Bethel A). ...mwy

Pentref bychan y tu allan i Gaernarfon yng Ngwynedd ydi Bethel. Eglurir yn fersiwn Saesneg y dudalen hon mai iaith gyntaf y rhan fwyaf o drigolion y pentref ac aelodau'r clwb yw'r Gymraeg ac, o ganlyniad, mae'r iaith yn cael lle blaenllaw yn holl weithgareddau'r clwb gan gynnwys y wefan hon. Mae gan y clwb iau dros 100 o aelodau (o'r ddau ryw). Mae'r nifer hwn yn cynnwys aelodau mor ifanc â phedair oed hyd at aelodau sy'n 13 oed.

Mae dwy adran i'n gwefan:-

  1. Y Clwb ~ gwybodaeth am yr hyn sy'n mynd ymlaen yn y clwb.
  2. Y Timau ~ adran sy'n rhoi manylion ymarferol am dimau'r clwb.

Penanawdau Newyddion y Clwb


ENILLWYR CLWB 100 MIS EBRILL- cliciwch ar y ddolen 'Codi Arian' uchod

8 o Chwaraewyr Dan 15 oed Bethel yn Cynrychioli Ysgol Brynrefail yng Nghwpan Cymru

Bydd 8 o hogia’r clwb yn chwarae yn ffeinal Cwpan Cymru i ysgolion dan 14 oed dydd Sul Ebrill 20ed. Bydd Ysgol Brynrefail yn chwarae yn erbyn Ysgol Aberaeron yn y ffeinal ar Barc Latham, Drenewydd. Bydd hyn yn brofiad gwych i’r hogia ac mae pawb yn y Clwb yn dymuno’n dda iddynt a’u cyd-chwaraewyr. Pob lwc i Aaron Gwyn, Daniel Bell, Gerallt Jones, Gruffydd John, Mathew Edwards, Nathan Price, Jamie Stevens a Tomos Emlyn. Mae 6 o’r bechgyn wedi bod yn aelodau o CPD Bethel ers yn 5 oed.


CWPAN ARFORDIR GOGLEDD CYMRU DAN 15 OED – 4edd ROWND – Dydd Sadwrn Ionawr 12fed 2008

Llandudno West Shore 0 - Bethel 5
Llongyfarchiadau i’r tim dan 15 ar eu buddugoliaeth haeddiannol. Maent drwodd i’r rownd gyn derfynol ar Chwefror 23. Pob lwc i chi hogia.  Am adroddiad o’r gêm ewch i’r dudalen dan 15 oed.


ENILLWYR CLWB 100 MIS TACHWEDD- cliciwch ar y ddolen 'Codi Arian' uchod

LLWYDDIANT I BETHEL DAN 15 YN NHRYDEDD ROWND CWPAN ARFORDIR GOGLEDD CYMRU
Dydd Sadwrn Tachwedd 24. Bethel yn ennill o 1 gol i 0 oddi cartref ym Mae Penrhyn. Pob lwc yn y 4edd rownd.


Ffenestri Cymru, noddwr cit newydd tîm dan 15eg Bethel.

Tîm balch dan 15eg yn eu cit newydd.
Y rheolwr, Andrew Williams a’r capten, yn derbyn y cit newydd oddi wrth Mr Meic Bullock, Ffenestri Cymru.

Y Bedol - Noddwyr Tim Y Dynion

Capten Tim Y Dynion, Irfon Hughes gyda Michelle o'r Bedol

TÎM DAN 13 OED 2006/2007
Pencampwyr Cynghrair Gwyrfai, Enillwyr Cwpan y Gynghrair 2007 ac enillwyr Cwpan Kon X Cymru Caergybi. Llongyfarchiadau iddynt ar eu llwyddiant.

Hyfforddiant Ieuenctid 2007 cliciwch yma

Llongyfarchiadau i dîm dan 11A Bethel ar eu llwyddiant yn Nhwrnament Eco’r Wyddfa Nos Lun Gorffennaf 9fed ar gae Coed Bolyn Bethel. Hefyd i dîm Bethel B am ddod yn ail yn y gystadleuaeth. Am fwy o’u hanes ewch i dudalen y tîm dan 11 oed.


Lluniau Cyn Ein Gem Gartref Yn Erbyn Porthmadog
Dydd Sadwrn 18.08.07
- Cliciwch Ar Y Lluniau i'w Chwyddo

<>

Ddiwedd Gorffennaf bu 7 o fechgyn o dimau Bethel yn cynrychioli Academi Dinas Bangor yn Aberystwyth mewn cystadleuaeth ryngwladol ‘Wales International Super Cup ‘.
Captain y tîm dan 11eg oedd James Bell o Fethel, hefyd yn chwarae roedd Morgan Williams, ac bu’r tîm yn ddiguro drwy’r wythnos gan ddod i frîg y grŵp oedd yn cynnwys timau o Malta, U.D.A., Alban, Cymru a Lloegr. Enillwyd y ffeinla ganddynt drwy guro Borras Park o Wrecsam 3-2.
Dan 14eg roedd 5 o aelodau tîm Bethel, Ryan Jones, Daniel Bell, Liam Williams, Adam Hughes & Alex Jones. Daethant yn drydydd yn y twrnament gan gael ambell i fuddugoliaeth enwog ar hyd y daith oedd yn cynnwys chwalu Ipswich Town 9-4 gyda thair gôl gan Daniel Bell.
Da iawn chi hogia. Sêr y dyfodol? Mae llawer mwy i ddilyn, yn sicr i chi!