Archif Tymhorau 2017/18

 

Dyma dîm dan 6 Clwb Pêl droed Bethel am y tymor 2017-18.

Dyma lun o ran fwyaf o’r tîm yn eu kit newydd. Diolch yn fawr i Tryfan Cabs am eu noddi.

Yn cael eu hyfforddi gan Graham Burton, diolch yn fawr iddo am roi ei amser i’r tîm.

Pob lwc i chi yn ystod y tymor, mwynhewch


Tymor Prysur

Mae’r tîm wedi cael tymor prysur iawn gan chwarae nifer o gemau a cymryd rhan mewn twrnameintiau:

21/4/18 - Gêm V Felinheli ar gae Ysgol Bethel. Llwyddo i guro’r gêm.
25/4/18 - Gêm yn erbyn Nantlle Vale ac unwaith eto mae’r tîm yn curo’r gemau gan nadu Nantlle Vale sgorio.
29/4/18 - Twrnamaint yn Nantlle Vale – y tîm yn curo’r gemau i gyd heblaw am un gêm ble gollodd nhw 1-0. Unwaith eto, chwarae da iawn gan bawb.

under-6

under-6

under-6

under-6

5/5/18 - Gêm V Penrhos yn Bethel. Curo’r ddwy gêm.
10/5/18 - Gêm gyfeillgar yn erbyn Brynrhosyr gafodd y tîm heno yn Brynsiencyn. Sgôr o 6 gôl i Bethel a 3 i Brynrhosyr. Diolch i Brynrhosyr am y croeso.
18/5/18 - Twrnamaint olaf y tymor yn Bangor oedd heno. A dyma sut ddaeth y tîm yn ei flaen:
Segontiwm 0 – Bethel 4 (Ryan, Ceian, Rio, Dion)
Llangefni 0 – Bethel 1 (Aran)
Felinheli 0 – Bethel 9 (Aran 2, Ceian 4, Dion 2, Rio)
Caergybi 0 – Bethel 10 (Dion 4, Ceian 4, Carson, Cyffin)
Nid yn unig ddaeth Bethel ar y brig ond mae nhw wedi llwyddo i nadu’r timau eraill i sgorio drwyddynt! Gwych, daliwch ati.

under-6

under-6

 

 

16/6/18 - Twrnamaint Llanfairpwll. Curo 3 gêm yn y glaw a colli 1 gêm wrth chwarae honno gyda dim on 3 chwaraewr ar y cae! Hwylia’ da arnynt yn derbyn eu medalau er bod hi’n tywallt y glaw!
24/6/18 - Twrnamaint Cae Glyn ar gaeau Syr Hugh Owen
Unwaith eto llwyddodd y tîm i guro’r holl dimau oedd yn eu grŵp nhw heddiw. Pawb yn mwynhau yn y tywydd poeth a be gwell na hufen iâ i ddathlu!

under-6

under-6

 

 

1/7/18 - Twrnamaint Mynydd Tigers ar gaeau rygbi Bethesda ar ddiwrnod chwilboeth! Daeth y tîm i guro bob gêm eto medda’ nhw a fe lwyddodd nhw hefyd!! Dathlu mawr yn derbyn eu medalau holl bwysig ar ddiwedd y diwrnod. Da iawn chi unwaith eto.

under-6

under-6

under-6

 


Nos Iau 21 Mehefin 2018

O dan 6Ar nos Iau 21/6 daeth tîm dan 6 a dan 7 at eu gilydd ar gae Ysgol Bethel am gêm gyfeillgar. Roedd pawb yn mwynhau!


Dydd Sadwrn 14 Mehefin 18

Bethel (7) V Talysarn (0)

Sgorwyr: Dion (2), Rio, Ceian (3), Cyffin

Amddiffyn gwych heddiw gan nadu Talysarn sgorio gôl. Chwarae da iawn gan bawb heddiw


Dydd Sadwrn 17 Mawrth 2018

Bethel (16) V Bontnewydd (0)

Sgorwyr: Rio (3), Dion (3), Carson (1), Ryan (2), Ceian (5) OG (2)

Ar fore dydd Sadwrn, 17eg o Fawrth 2018, cafodd dîm dan 6 Bethel gêm ar gae Ysgol Bethel yn erbyn Bontnewydd. Llwyddodd Bethel i sgorio 14 gôl a nadu Bontnewydd sgôrio o gwbl. Roedd hi’n pluo eira a gwyntog iawn.
Da iawn chi!


Dydd Sadwrn 10 Mawrth 2018

Mynydd Tigers (2) V Bethel (20)


Dydd Sadwrn 24 Chwefror 2018

Talysarn (0) V Bethel (15)

Sgorwyr: Dion (10), Ceian (4), Ryan (1)


Twrnament Bangor 3G 2/2/18

Cafodd y tîm eu rhannu i ddau dim heno ar ôl croesawu 3 aelod newydd i'r tîm yn y flwyddyn newydd. Dyma ganlyniadau'r gemau:

Bethel V Valley 3-0 (Sgoriwr: Dion)
Bethel V Llangefni 1-0 (Sgoriwr: Ceian)
Bethel V Holyhead 2-0 (Sgorwyr: Aran, Ceian)
Bethel V Penrhos 2-0 (Sgorwyr: Dion, Rio)
Bethel V Segontiwm 1-2 (Sgoriwr: Ceian)
Bethel V Penrhos 3-1 (Sgoriwr: Ceian)
Bethel V Pwllheli 4-0 (Sgoriwr: Ceian)
Bethel V Cae Glyn 2-1 (Sgoriwr: Dion)
Bethel V Bryn Rhosyr 2-1 (Sgorwyr: Ceian, Dion)

Noson oer iawn ond pawb wedi mwynhau a chwarae'n grêt gyda'u gilydd.


Dydd Sadwrn 13 Ionawr 2018

Bethel (8) - Segontiwm (3)
Sgorwyr: Dion (7) Ryan (1)

Amddiffyn da iawn heddiw gan Bethel, gem heriol ond fe aeth y tiî amdani. Da iawn chi.
Diolch Nia am reoli'r tîm bore 'ma.


Dydd Sadwrn 16 Rhagfyr 2017

Penrhosgarnedd (10) V Bethel (8)
Sgoriwr: Dion yn sgorio bob gol i Bethel eto wythnos yma!

Gem ofnadwy o agos heddiw gyda'r ddau dim yn brwydro i sgorio, ymdrech dda iawn gan bawb unwaith eto. Daliwch ati. Diolch yn fawr i Graham am yr anrhegion Nadolig - sypreis neis i'r tim ar ddiwedd y gem heddiw wrth iddynt orffen y tymor. Seibiant dros y Nadolig rwan.


Dydd Sadwrn 25 Tachwedd 2017

Felinheli (3) V Bethel (11)
Sgoriwr: Dion yn sgorio bob gol i Bethel heddiw.
Cawsom groeso gan dim Felinheli ar gae Ysgol Felinheli bore 'ma. Roedd hi'n oer iawn a'r cefnogwyr yn sglefro ar hyd y cae mwdlyd!! Chwaraeodd y tim yn arbennig o dda.


Bore Sadwrn 18 Tachwedd 2017

Ar gae Ysgol Bethel, chwaraeodd dîm dan 6 Bethel ddwy gêm yn erbyn Bethesda bore 'ma.

Bethesda v Bethel

Y gêm gyntaf

Bethel 5 - Bethesda 2

Sgorwyr: Rio a Dion

Yr ail gêm

Bethel (6) - Bethesda (4)

Sgorwyr: Dion a Rio

Gêmau anodd iawn heddiw gyda Bethel yn amddiffyn ac ymosod yn gryf iawn yn erbyn Bethesda. Da iawn chi Bethel, daliwch ati.


Dydd Sadwrn 11 Tachwedd 2017

Bontnewydd (0) V Bethel (6)
Sgorwyr: Rio (1) Dion (5)

Yr ail gem
Bontnewydd (0) V Bethel (3)
Sgorwyr: Rio (1) Dion (2)

Gemau da iawn heddiw gyda'r chwareuwyr yn chwarae fel tim. Gwych!!


Dydd Sadwrn 11 Tachwedd 2017

O dan 6Bontnewydd (0) V Bethel (6)
Scorers: Dion (5), Rio (1)

Bontnewydd (2) V Bethel (5)
Sgorwyr: Dion (4), Rio(1)

Gêmau da iawn heddiw ar gae Bontnewydd yn y mwd :) pawb wedi mwynhau, a'r tîm yn gweithio gyda'u gilydd wrth basio a gweiddi am y bêl! Da iawn.

Dyma lun o dîm dan 6 gyda'u hyfforddwr Graham Burton a Mervyn perchenog y cwmni Tryfan Cabs sydd wedi eu noddi y tymor yma. Diolch yn fawr iawn am eich cefnogaeth!


Nos Wener 29 Medi 2017

Twrnament ar gae 3G Bangor

Noson arbennig o lwyddianus yn eu twrnamaint cyntaf y tymor hwn.

Y canlyniadau:
Bethel (4) v Valley (1)
Sgorwyr: Dion (1), Rio (2), Rhiannon (1)

Penrhos (2) V Bethel (1)
Sgorwyr: Dion

Nantlle Vale (1) V Bethel (2)
Sgorwyr: Dion, Rio

Segontiwm (0) V Bethel (3)
Sgorwyr: Dion (3)

Bethel (3) V Bryn Rhosyr (0)
Sgorwyr: Dion (2), Rio (1)


28/9/17 Twrnament 3G Bangor

3 - 1 (Dion 3)
9-1 (Carson, Ryan, Dion 7)
2 - 1 (Dion)
6 - 2 (Ryan 3, Dion 3)


Nos Iau 28 Medi 2017

Cafodd y tim gyfle i ymarfer gyda tim academi Bangor ar gae 3G Bangor cyn mynd ymlaen i chwarae gem gyfeillgar, llawer o hwyl.


Bore Sadwrn 23 Medi 2017

Bethel v Penrhyn Bay

Dim llawer o lwc bore 'ma yn erbyn tim profiadol iawn. Nifer o gyfleoedd i sgorio gan Bethel ond gyda'r gol geidwad yn amddiffyn y gol, roedd yn amhosib cael y bel heibio. Ymdrech arbennig o dda eto, mae'r tim yn codi hyder ac yn mwynhau.


Bore Sadwrn 9 Medi 2017

O dan 6Segontiwm v Bethel

Gem arbennig o dda gan Bethel, ar ol cychwyn aniscr, cafodd y tim egni a brwdfrydedd a mynd ymlaen i guro'r gem. Llawer iawn wedi ei sgorio i Bethel, da iawn chi. Hwyliau da ar bawb!

 

Gêm gyntaf arbennig o dda, da iawn chi bob un ohonych chi. Wedi cario mlaen yn y glaw hefyd!

O dan 6

Brwydro yn erbyn Segontiwm.

O dan 6

Y ‘team talk’ holl bwysig.

O dan 6 O dan 6

A pawb yn gwenu yn y glaw



Thursday 31/8/2017

The team being given a team talk with their coach Graham before playing the Bethel Under 7’s. An evening of fun for the team on Bethel school’s pitch before the start of season.

O dan 6 O dan 6 O dan 6

 

Nos Iau 21 Mehefin 2018

Under 8's Ar nos Iau 21/6 daeth tîm dan 6 a dan 7 at eu gilydd ar gae Ysgol Bethel am gêm gyfeillgar. Roedd pawb yn mwynhau!



Dyma dîm dan 8 Clwb Pêl droed Bethel am y tymor 2017-18.

Cefn (chwith i'r dde) Max, Adam, Steffan, Riley
Tu blaen (chwith i'r dde) Caio Orlik, Caio Robin, Deio

Croeso at y tîm Caio Orlik ac i Caio Robin wrth iddo ail ymuno gyda'r tîm ar ôl seibiant fach.

Pob hwyl i chi yn ystod y tymor.

Diolch mawr i Andrew Williams (Taid Max) am roi ei amser i hyfforddi'r tîm eto eleni.


Tymor Prysur

14/6/18 - Yn lle ymarfer heno, daeth tîm dan 8 a dan 9 Bethel at eu gilydd am gêm gyfeillgar. Braf gweld yr hogia’n mwynhau.
23/6/18 - Twrnamaint Cae Glyn
Diolch byth bod y ‘dent’ newydd wedi cyrraedd ar gyfer heddiw, roedd hi’n boeth iawn ar gae Syr Hugh Owen ac felly braf oedd cael cysgodi o dan y dent. 5 chwaraewr oedd gan y tîm heddiw gan fod Adam wedi mynd i Gaerdydd i wylio Ed Sheeran. Llwyddodd y tîm i guro bob gêm a drwy’r holl gêmau, un gôl gafodd ei sgorio yn eu herbyn. Roedd hi’n rownd gyn derfynol ac unwaith eto llwyddodd Bethel i guro’r gêm i gael eu lle yn y ffeinal. Bethel oedd yr unig dîm oedd wedi curo’r holl dîmau hyd yma. Roedd Penrhos yn eu erbyn yn y ffeinal, y tîm oeddent wedi ei ennill yn gynharach y diwrnod hwnnw yn y gemau grŵp. Roedd pawb wedi blino ac yn ôl Andrew, ‘nath y tîm ddim troi fyny i’r ffeinal’! Yn anffodus iawn i’r hogia’ collodd nhw o 1 gôl i 0 a pawb yn siomedig dros ben. Doedd dim hwyliau da yn mynd adref ond fe wnaeth nhw’n arbennig o dda.
1/7/18 - Twrnamaint Mynydd Tigers
Roedd yr hogia’ yn barod amdani heddiw ac gyda 8 chwaraewr heddiw roedd digon o amser i bawb gael seibiant yn ystod y dydd. Yn debyg iawn i’r twrnamaint yn Cae Glyn wythnos diwethaf, llwyddodd y tîm i guro’r gemau i gyd a cyrraedd y ffeinal unwaith eto, yn erbyn Penrhosgarnedd unwaith eto! Collodd nhw’r gêm o un gôl a neb yn coelio bod eu lwc nhw ddim yno eto heddiw. Tîm mewn hwyliau gwell ar ôl cael ail heddiw ac yn hapus iawn o’u tlysau. Braf gweld timau yn ffrindiau ar ôl y gêm ac yn llongyfarch ei gilydd. Mae ‘na chwaraewyr da iawn yn ein mysg a dyfodol cyffroes iawn iddynt. Pob hwyl gyda gweddill y tymor bois!!

under-6

under-6

under-6

under-6


Nos Fercher 16 Mai 2018

Bethel v Penrhosgarnedd ar gae Treborth, Bangor
Cychwyn gwael heno, gyda Penrhosgarnedd ar y blaen gyda 4 gôl i 1. Diolch byth bod tîm Bethel wedi cofio mai chwarae'r gêm oedd nhw dim gwylio hi ar ôl hanner amser gan sgorio 4 gôl. Sgôr ar ddiwedd y gêm Bethel 5, Penrhosgarnedd 4. Diolch i Penrhos am y croeso.


Dydd Sul 13 Mai 2018

Under 8's Llongyfarchiadau mawr i'r hogia' yma ar eu ymdrech arbennig yn nhwrnamaint pêl droed cyffordd Llandudno dydd Sul 13/5/18.
Roedd yna dîmau cryf iawn yno ac mi roedd y tîm wedi brwydro eu ffordd i'r "semi-finals" ble gollodd nhw'r gêm 1 gôl i 0. Ofnadwy o agos o gyrraedd y ffeinal a wedi diweddu yn y 3ydd safle.
Profiad dda iawn i'r tîm wrth chwarae tîmau gwahanol i'r arfer (profiad i'r rhieni a'r hyfforddwyr hefyd - mi roedd y pêl droed yn wahanol iawn i'r arfer!!) Pob hwyl gyda gweddill y twrnameintiau. Mae'r "tent" wedi cyrraedd erbyn hyn hefyd!


Dydd Sadwrn 17 Mawrth 2018

Under 8'sBethel (9) V Bontnewydd (0)
Sorwyr: Max (3), Riley (3), Steffan (2), Deio (1)

Chwaraeodd dîm pêl droed dan 8 Bethel yn erbyn Bontnewydd ar gae top Bethel bore ‘ma. Y ddau dîm yn chwarae yn eu cotiau gan iddi fod yn rhynllyd ofnadwy (mi roedd hi’n pluo eira!!). Roedd y rhieni (a’r hogia’) yn falch iawn o glywed y chwiban olaf. Rhedodd yr hogia fewn i’r cwt i gael cynhesu ychydig. Chwarae da iawn unwaith eto – daliwch ati bois.


Dydd Sul 4 Mawrth 2018 - Ras Gwib y Ddraig Porthaethwy

Under 8'sAr ddydd Sul y 4ydd o Fawrth 2018, llwyddodd tîm pêl droed dan 8 Bethel i redeg 1.2milltir yn ras Gwib y Ddraig Ynys Môn. Diolch yn fawr iawn i chi am eu noddi. Mae nhw wedi casglu dros £200 rhyngddynt ac yn edrych ymlaen i gael tent ar gyfer ymlacio rhwng gemau yn yr holl dwrnameintiau sydd ar y gweill. Diolch yn fawr iawn i chi am gefnogi’r tîm.

Cliciwch yma i weld mwy o luniau
Cliciwch yma i lawrlwytho pdf


Dydd Sul 4 Chwefror 2018

Cae Glyn (0) V Bethel (6)

Gafodd y tîm gem ar b'nawn dydd Sul wythnos yma.


Dydd Sadwrn 13 Ionawr 2018

Bethel (5) V Segontiwm (1)
Sgorwyr: Max (3) Riley (1) Steff (1)

Braf oedd chwarae yn cae top Bethel heddiw gyda timau hyn Bethel yn chwarae'r un pryd, roedd y cae yn llawn bwrlwm a pawb yn mwynhau


Nos Fercher 20 Rhagfyr 2017

Gem ar 3G Bangor heno. Chwarae arbennig o dda unwaith eto hogia'. Sgor dda iawn eto :)


Nos Lun 11 Rhagfyr 2017

Cafodd y tîm eu gwahodd am gem gyfeillgar yn erbyn Cewri Bangor heno ar gae 3G Bangor. Mwynhaodd y ddau dim, diolch i Cewri Bangor am y croeso.


Bore Sadwrn 9 Rhagfyr 2017

Nantlle Vale (0) V Bethel (8)


Bore Sadwrn 2 Rhagfyr 2017

Y tîm wedi chwarae'n dda iawn yn erbyn Felinheli heddiw, sgor uchel iawn ac wedi nadu Felinheli rhag sgorio.


Dydd Sadwrn 11 Tachwedd 2017

Am fore gwych, mae'r tîm wedi dangos heddiw sut mae chwarae gyda'u gilydd fel tîm yn gallu dylanwadu ar y sgôr - Rhyfeddol!! Pawb wedi rhoi ei sgiliau a trio technegau newydd ac yn fwy na dim cyd-weithio. Roedd pasio gwych yn mynd ymlaen a dwi'n siwr bod y sgôr ar gyfer y ddwy gêm yn adlewyrchu safon y chwarae bore 'ma. Daliwch ati hogia.

Bontnewydd (1) V Bethel (6)
Sgorwyr: Steff (1) Riley (1) Caio O (1) Max (3)

Bontnewydd (3) V Bethel (18)
Sgorwyr: Deio (3) Caio O (5) Max (6) Steff (3) Adam (1)


Bore Sadwrn 30 Medi 2017

Cewri Bangor v Bethel - gem wedi ei ohurio oherwydd y tywydd!


Nos Wener 22 Medi 2017

Bethel (8) v Llanberis (1)

Sgorwyr: Max (2), Deio (2), Steff (1), Adam (1), Caio Orlik (1), Riley (1)
Gem wych arall heno ar gae cpd Bethel.


Nos Wener 15/9/2017

Bethel (5) v Cae Glyn (2)

Sgorwyr: Riley (2), Max (1), Steff (1), Deio (1)

Dechrau da i'r tymor gyda Bethel yn chwarae'n gryf iawn yn erbyn Cae Glyn.

Dydd Sadwrn 14 Hydref 2017

Bethel 6 - Bethesda 3

Sgorwyrs: Jac Lloyd-Williams, Llyr a Iestyn (4)

Dyma berfformiad gorau’r tymor gyda pawb yn y tîm yn defnyddio’r bel yn arbennig o dda ac yn ymwybodol o’u safleoedd trwy’r adeg. Cafwyd yr enghraifft gorau o chwarae o’r cefn gan Nia a welwyd gan unrhyw dim y tymor yma – yn union fel Franco Baresi neu Fabio Cannavaro o dim yr Eidal ers talwm!!
Aeth y tîm ar y blaen o 3-0 yn fuan ac yna ymestyn hynny i 5-1 cyn i’r gwrthwynebwyr sgorio tuag at y diwedd mewn buddugoliaeth o 6-3 i Bethel. Y sgorwyr oedd Jac Lloyd-Williams, Llyr a Iestyn (4).


Dydd Sadwrn 7 Hydref 2017

Llanberis v Bethel

Dechrau da eto’r wythnos yma gyda Jac Green a Iestyn yn rhoi y tîm ar y blaen. Colli rheolaeth ar y gem ddaru ddigwydd rywfaint ar ôl y toriad cyntaf ond fe adfywiodd Bethel eto. Gem agos gyfartal gyda ymdrech pawb yn arbennig o dda. Dalier ati i basio a symud y bel yn sydyn o un i’r llall. Dyna fydd pwyslais yr ymarferion nesaf. Da iawn bawb!


Medi 30 2017

Bethel v Bontnewydd

Dechrau gwell heddiw ac yn gyffredinol y tîm yn cadw eu siâp yn well ac yn trystio pawb i wneud eu job yn iawn. Aeth Bethel 2 gôl ar y blaen yn fuan ond erbyn hanner amser roedd Bont wedi dod a’r sgôr yn ôl yn gyfartal. Yn yr ail hanner taniodd chwarae Bethel ac fe sgoriodd nhw 7 gôl arall yn ddi-ateb. Er bod y tîm yn ymosod yn dda mae clod arbennig i’r amddiffyn (Llyr a Jack Green) oedd ddim wedi methu dim un tacl trwy’r gem.


Medi 23 2017

Bethel v Llandwrog

Dechrau araf gan y tîm heddiw (cofiwch bod kick-off am 9.30 dim ymgynnull am 9.30!!) ond daethant mewn i’r gem yn fwy a mwy wrth fynd yn ei flaen. 3-1 i Llandwrog oedd hi ar y diwedd ond ar gais yr ymwelwyr cafwyd ail gem ac yn y gem yma roedd Bethel yn creu cyfle ar ôl cyfle. Roedd Iestyn ar restr y sgorwyr a thrwy’r gem roedd yna fwy o ddisgyblaeth a cyd-chwarae gan y tîm. Ennill 5-3 gyda gôl wedi cael ei wrthod ar y chwiban olaf i’w gwneud hi yn 6-3 oedd y sgôr. Mi oedd o leiaf 10 cyfle gwych arall gan y tîm a bydd y goliau yn dod os ydi’r tîm yn parhau i chwarae fel hyn drwy gydol y gem. Da iawn chi!


Medi 16 2017

Llanrug v Bethel

Ar ôl pythefnos o law ddi-ddiwedd rhaid oedd symud y gem o gae gwlyb Bethel i Lanrug. Dechreuodd y tîm yn bwrpasol eto ond Llanrug aeth ar y blaen ond yn raddol daeth trefn i chwarae a pasio Bethel ac ar ôl gôl agoriadol wefreiddiol gan Gruff gorffennodd Bethel y gem yn gryf. Mae mathemateg yn wendid gan y rheolwr (!) ond y farn gyffredinol oedd bod y gem yn gyfartal (4-4) gyda rhai positif yn meddwl efallai bod Bethel wedi’i chipio hi!!


Medi 9 2017

Nantlle Vale v Bethel

Eto’r flwyddyn yma mae cae mwy, goliau mwy a 7 bob ochr eleni.
Er mai dim ond un ymarfer oedd wedi bod dyma tîm Bethel yn trafeilio i un o dim cryfaf y gynghrair i ddechrau’r tymor. Yn anffodus, roedd Liam wedi gadael y tîm ond roedd 3 newydd yn cael eu croesawu i wneud y sgwad yn gryfach ac er nad oedd y sgwad yn llawn ar gyfer y gem gyntaf roedd dechrau addawol iawn gan y tîm gyda gem gystadleuol am y 15 munud cyntaf. 0-0 oedd y sgor bryd hynny ond gyda newidiadau daeth rywfaint o ansicrwydd ac fe sgoriodd Nantlle Vale yn gyson cyn i Bethel ail-sefydlu eu hunain yn y 10 munud olaf a cau’r llifddorau eto.
Dechrau addawol ond yn amlwg angen gweithio ar y tactegau ac anwybyddiaeth pawb o’u gilydd ar y cae mewn system newydd 7 bob ochr. Cadwch y ffydd bois!!

Nos Wener 18 Mai 2018

Dyffryn Nantlle 1 – Bethel 2


Nos Wener 11 Mai 2018

Bethel 0 – Bontnewydd 4


Nos Iau 3 Mai 2018

Ffeinal Cwpan Gwyrfai
Bethel 2 – Bontnewydd 2
Ar ôl amser ychwanegol, Bontnewydd yn curo 5-4 ar giciau o’r smotyn


Dydd Sadwrn 28 Ebrill 2018

Penrhos A 1 – Bethel 0


Nos Iau 26 Ebrill 2018

Bethesda 1 – Bethel 3


Dydd Sadwrn 21 Ebrill 2018

Cwpan Gwyrfai
Segotiwm 1 – Bethel 2


Nos Iau 19 Ebrill 2018

Cae Glyn 1 – Bethel 1


Nos Lun 16 Ebrill 2018

Cwpan Gwyrfai
Bethel 5 – Dyffryn Nantlle 1


Nos Iau 12 Ebrill 2018

Bethel 0 – Segontiwm 2


Dydd Sadwrn 7 Ebrill 2018

Bethel 2 – Bethesda 0


Dydd Sadwrn 24 Mawrth 2018

Bethel 3 – Penrhos A 3


Dydd Sadwrn 17 Mawrth 2018

Cwpan Gwyrfai Llyn
Bethel 3 – Penrhos B 5


Dydd Sadwrn 17 Chwefror 2018

Gem cyfeillgar
Bethel 2 – Llangoed 3


Dydd Sadwrn 2 Chwefror 2018

Segontiwm 4 – Bethel