O dan 12
Croeso i dudalen y tim dan 12 a'u hanes y tymor hwn. Diolch i'r rheolwyr a'r hyfforddwyr am eu gwaith caled gyda nhw.
Canlyniadau Tymor 2011 - 2012
Dydd Sadwrn 28 Ionawr 2012
Penrhosgarnedd 1 – Bethel 5
Sgorwyr: Iwan (2), Shaun (2), Gruff
Oherwydd salwch dau o chwaraewyr ac anaf (brysia wella Ben) ‘roedd rhaid i Fethel ail drefnu ychydig. ‘Roedd un gêm eisoes wedi chwarae ar y cae yn ystod y bore ac ‘roedd y tywydd gwael yn ystod yr wythnos yn golygu bod y cae yn drwm a haen o fwd yn y blychau cosbi’r ddwyochr. Er yr amgylchiadau ceisiodd Bethel i basio’r bel a defnyddiwyd y ddwy asgell yn effeithiol ond pan ddaeth y bel i mewn i'r cwrtcosbi ni lwyddwyd i droi’r meddiant i mewn i goliau wrth i’r bel fynd yn sownd yn y mwd ar sawl achlysur. O’r diwedd wedi dyfalbarhaddaeth y gôl gyntaf wedi Iwan lwyddo i wyro’r bel heibio’r gôl-geidwad wedi gwaith da gan Shaun. Yn fuan wedyn daeth yr ail y tro yma Shaun yn sgorio wedi pass dda gan Gethin Bryn. 2-0 ar yr hanner.
Cychwynnodd Penrhos yn dda yn yr ail hanner a pan na gliriwyd y bel wedi cic rydd gwnaeth Penrhos hi’n 2-1. Yn raddol cafodd Bethel y gorau o’r chwarae eto ac wrth i Penrhos flino daeth 3 gol i Fethel yn y chwarter olaf gyda Gruff yn sgorio wedi pass drwadd gan Hari cyn i Aaron greu 2 gol, 1 i Iwan a 1 i Shaun.
Perfformiad penigamp arall wrth ystyried yr amgylchiadau. Da iawn Bethel.
Seren y gêm wythnos yma wedi gwaith di flino mewn amgylchiadau anodd yng nghanol y cau yn amddiffynnol ac ymosodol oedd Gethin Bryn.
-----------------------------------------------------
Dydd Sadwrn 14 Ionawr 2012
Bethel 11 Llanrug 0
Sgorwyr: Siôn (2), Aaron (2), Gethin Bryn (2), Ben, Shaun, Hari, Iwan, Dion
Bethel yn rheoli’r gêm gyda phasio da. Unwaith eto Bethel yn cychwyn yn dda gyda goliau’n dod gan Ben, Siôn (2), Shaun, Hari a Gethin Bryn gydag Iwan yn creu 3 o’r goliau cyn yr hanner. Yn yr ail hanner daeth goliau pellach gan Aaron (2), Gethin Bryn, Iwan a Dion. Daeth un o goliau Aaron wedi iddo gael ei rwystro yn y blwch a sgoriodd gic o’r smotyn cyntaf y tîm.
Seren y gêm wythnos yma wedi iddo greu 3 gol a sgorio 1 oedd Iwan.
-----------------------------------------------------
Dydd Sadwrn 7 Ionawr 2012
Nantlle Vale 1 – Bethel 6
Sgorwyr: Aaron (3), Iwan (2), Gruff
Y gêm gyntaf wedi toriad y Nadolig a pherfformiad canmoladwy arall gan Fethel. Cychwynnodd y gêm gyda’r ddau dîm yn creu cyfleoedd gyda symudiadau a phasio da ond Bethel aeth ar y blaen wedi pas Jack drwy’r amddiffyn i Iwan rwydo. Daeth yr ail gol o dafliad gan Lee gol geidwad Bethel i Dion a gariodd y bel heibio ganol cae Nantlle cyn rhyddhau Gruff i sgorio. O symudiad gan Dion ddaeth y drydedd hefyd wrth i Aaron ddilyn i fynnu i sgorio pan na ddalwyd ergyd Dion am gol. 3-0 ar yr hanner.
Daeth tair gôl bellach i Fethel yn yr ail hanner gyda Aaron yn rhwydo o bas Shaun ac yna’n cael ei hat-trick wedi croesiad gan Ben ac yna Iwan yn sgorio gôl dda wedi eu greu gan Shaun. Ildiodd Bethel gol hwyr wedi cic rydd da gan Nantlle.
![]() |
Seren y gêm wedi gwaith gwych ar ochr chwith yr amddiffyn a hefyd sawl rhediad ymosodol nerthol oedd Jack. |
-----------------------------------------------------
Dydd Sadwrn 10 Rhagfyr 2011
Cwpan Arfordir Gogledd Cymru
Bethel 14 - Menai Bridge Tigers 0
Sgorwyr: Aaron (6), Shaun (3), Iwan (2), Siôn, OG (2)
Braf oedd cael bore braf wedi wythnos stormus. Yn ein gem olaf cyn y toriad am y Nadolig chwaraeodd Bethel yn wych gyda phasio da gan y holl dîm. Dechreuodd Bethel ar dan a sgorio wedi ond 2 funud wedi rhediad da Jack lawr yr asgell chwith a Aaron yn gorffen yn dda ar y postyn cyntaf. Yn fuan wedyn gwnaeth Shaun hi'n ddwy ac 'roedd hi'n dair wedi ddim ond 7 munud wrth i amddiffynnwr Porthaethwy yn anffodus yn rhoi'r bel yn rhwyd ei hun wedi gwaith da gan Iwan. Parhaodd Bethel i sgorio'n rheolaidd gyda Aaron hefo 3 ac Iwan hefo 2 yn rhwydo ac un gôl i rwyd ein hunain. 'Roedd y pasio graenus a arweiniodd at y goliau yn werth yn weld.
Yn yr ail hanner parhaodd Bethel i bwyso a daeth goliau pellach gan Aaron (2), Shaun (2) a Siôn ac unwaith eto braf oedd gweld gwaith rhagorol yn arwain at y goliau. Seren y gêm wythnos yma oedd Dion yn cael ei gem orau dros Fethel ac yn llwyr reoli ganol y cae.
-----------------------------------------------------
Dydd Sadwrn 3 Rhagfyr 2011
Cwpan Gwyrfai
Llanrug 1 - Bethel 2
Sgorwyr: Aaron, Dion
Bethel yn gwynebu Llanrug am yr eil dro o fewn wythnos, y tro yma yng nghwpan Gwyrfai. Dechreuodd Bethel ar dan gan fynd ar y blaen ar ôl munudau'n unig wrth i Gruff greu lle yng nghanol y cae a phasio'n gelfydd i Aaron rhwydo. Wedi hynny brwydrodd Llanrug yn galed ac er i Fethel gael sawl cyfle ni ddaeth yr ail gydag Osian yn y gôl i Lanrug yn gwneud sawl arbediad da. I mewn i'r ail hanner a gyda ddim ond 10 munud ar ôl ildiodd Bethel gic o’r smotyn a gwnaeth Llanrug hi'n gyfartal. Pob clod i Fethel, parhaodd pawb i frwydro'n galed a daeth y gôl fuddugol wedi i Siôn gymryd cornel byr i Dion a saethodd yn gywir i gornel uchaf y rhwyd. Seren y gêm wythnos yma oedd Aaron.
-----------------------------------------------------
Dydd Sadwrn 26 Tachwedd 2011
Llanrug 0 Bethel 9
Sgorwyr: Aaron 2, Gethin Bryn 2, Shaun 2, Osian, Gruff, Iwan
Ar fore gwyntog fe lwyddodd yr hogiau i ennill i ffwrdd i Lanrug o naw gol i ddim. Yn yr hanner cyntaf roeddem yn chwarae yn erbyn
y gwynt. Rhwydodd Aaron y gôl gyntaf, ac ar ôl gwaith da gan Gruff, Aaron sgoriodd yr ail hefyd. Gwnaeth Gethin Bryn hi'n dair cyn yr egwyl gyda phas gan Osian. Fe gafodd Llanrug ambell i gyfle yn ystod yr hanner cyntaf, ond roedd amddiffyn Bethel yn gadarn a Lee gyda dwylo saff yn y gol. Yn yr ail hanner gyda'r gwynt tu ol iddynt sgoriodd Bethel chwe gôl arall. Gruff yn pasio i Osian rwydo, yna Gruff, Iwan a Shaun yn sgorio, Gethin Bryn yn cael ei ail gol o'r gêm o bas gan Osian, a Ben yn pasio i Shaun gael ei ail gol.
Seren y gêm wythnos yma oedd Osian.
------------------------------------------------------
Dydd Sadwrn 12 Tachwedd 2011
Cwpan Arfordir Gogledd Cymru
Llanrwst 2 - Bethel 3
Sgorwyr: Shaun (2), Iwan
Gem hynod o gystadleuol gyda'r ddau dîm yn creu sawl cyfle yn ystod yr ugain munud cyntaf. Llwyddodd Bethel i gadw ymosodiadau’r tîm cartref allan a rheolodd Lee yn y gôl i Fethel ei gwrt cosbi yn ardderchog. Aeth Bethel ar y blaen ar ôl 25 munud wedi i Jack basio'r bêl drwy amddiffyn Llanrwst a Gruff yn ffugio i adael y bel rhedeg drwodd i Shaun rwydo. 1-0 ar yr hanner.
'Roedd yr ail hanner yr un mor gystadleuol gyda Llanrwst yn bygwth ar sawl achlysur ond llwyddodd amddiffyn Bethel a Lee yn y gôl i atal y storm. Daeth yr ail gol wedi cig gornel na chliriwyd gan Lanrwst, rhoddodd Hari'r bel yn ôl i Gethin Bryn a groesodd i Shaun sgorio gyda pheniad cryf. Parhaodd Llanrwst i ymosod a gyda llai na 10 munud ar ôl ildiodd Bethel gic o’r smotyn a rhwydodd Aron Hughes yn dda i Lanrwst. Wedi cyfnod ansicr gan Fethel cafodd Siôn y bel yn ganol y cae a basiodd y bel yn wych i gwrt cosbi Llanrwst a manteisiodd Iwan ar y bel rhydd i rwydo. 3-1 i Bethel. 'Roedd mwy i ddod wrth i Aron sgorio gôl dda i Lanrwst ond llwyddodd Bethel i ddal ymlaen tan ddiwedd y gêm.
Llongyfarchiadau i Lanrwst a Bethel am gêm mor dda a diolch i Lanrwst am y croeso. Seren y gêm wythnos yma oedd Lee am ei berfformiad gorau eto yn y gôl i Fethel.
------------------------------------------------------
Dydd Sadwrn 5 Tachwedd 2011
Bethel 3 - Bontnewydd 2
Sgorwyr: Aaron 2, Osian
'Roedd yn niwrnod braf heb fawr o awel ac yn gynnes iawn. Gem hynod gystadleuol a'r gêm anoddaf i Fethel wynebu hyd yma'r tymor yma. Cychwynnodd Bethel yn dda gan wthio Bont i hanner ei hynna'n am gyfnodau hir a daeth y gôl gyntaf wedi 10 munud wedi symudiad da wrth i Ifan basio'r bel allan o'r amddiffyn i Siôn ar ochr y cwrt cosbi a basiodd i Osian yn y cwrt a drawodd ergyd dda heibio’r gôl-geidwad. Wedi hynny daeth Bont nol i mewn i'r gêm a creuwyd cyfle da ar yr ochr dde ond Lee yn y gôl i Bethel yn arbed yn dda. Ychydig yn ddiweddarach daeth cyfle arall i Bont wedi i bêl gan ei godi dros ben amddiffyn Bethel a'r tro yma gwnaeth Bont ddim camgymeriad i unioni'r sgôr. 1-1 ar yr hanner.
Dechreuodd Bethel yn dda yn yr ail hanner ac aethant ar y blaen wedi symudiad da a gychwynnwyd gan Gethin Parry yn pasio i Gethin Bryn ar y dde a groesodd i'r blwch i Aaron rwydo yn wych. Unwaith eto daeth Bont yn ôl a gyda 10 munud ar ôl unwyd y sgôr unwaith eto. Dangosodd Bethel gryn gymeriad a brwydro hyd y diwedd a chawsant ei haeddiant wedi croesiad da gan Iwan ac 'roedd Aaron yn y fan a'r lle i rwydo.
Canlyniad gwych a haeddiannol yn erbyn tîm talentog a cystadleuol. Seren y gêm wythnos yma a'm ei waith amddiffynnol soled oedd Ifan.
------------------------------------------------------
Dydd Sadwrn 22 Hydref 2011
Bethel 4 - Mynydd Deiniolen 1
Sgorwyr: Dion, Gruff, Gethin Bryn, Aaron
'Roedd yr haul allan ond 'roedd y gwynt yn gryf. Chwaraeodd Bethel yn erbyn y gwynt hanner cyntaf ac am gyfnodau hir methodd Bethel a thorri allan o'i hanner ond serch hynny llwyddodd Bethel i greu sawl cyfle da. Daeth y gôl gyntaf wedi gwaith ardderchog ar y chwith gan Gruff yn rhyddhau Dion a redodd yn gryf cyn taro'r bel i gornel gol y gwrthwynebwyr. Gallai Bethel fod wedi ymestyn ei mantais ond amddiffyn Mynydd Deiniolen yn dod i'r adwy sawl gwaith. 1-0 ar yr hanner.
Dechreuodd Bethel ar dan ar ddechrau'r hanner ac wedi dyfalbarhad enillodd Gruff y bel ar gornel y cwrt a tharo'r bel dros ben y gôl-geidwad i'r rhwyd. 'Roedd Gruff yn creu trafferth fawr ar y chwith a munudau'n ddiweddarach rhedodd yn gryf i mewn i'r cwrt ac er i'w ergyd gael ei arbed yn dda gan y gôl-geidwad dilynodd Gethin Bryn i fynnu i rwydo. Yn fuan wedyn daeth y gwrthwynebwyr yn ôl i mewn i'r gêm wedi pêl dros ben amddiffyn Bethel a rhedodd ymosodwr Mynydd Deiniolen yn glir a'i tharo bel dros y gôl-geidwad. Daeth y gôl olaf wedi i Sïon ennill y bel ar ochr cwrt Bethel a rhyddhau Dion yng nghanol y cae a darodd y bel dros amddiffyn Mynydd Deiniolen i Aaron fynd ar bêl heibio'r gôl-geidwad i sgorio.
Perfformiad proffesiynol unwaith eto a sawl unigolyn yn disgleirio ond seren y gêm wythnos yma oedd Gruff am ei waith gwych lawr yr asgell chwith gan greu dwy gôl a sgorio 1. Da iawn Gruff.
------------------------------------------------------
Dydd Sadwrn 8 Hydref 2011
Bethel 7 - Penrhosgarnedd 1
Sgorwyr: Shaun Owen (2), Gethin Bryn (2), Aaron, Dion, Ben
Ail gêm y tymor ar ddiwrnod gwlyb ar cae yn llithrig. Dechrau da gan Bethel a gôl ar ôl 3 munud gan Shaun Owen ar ôl pas dda gan Iwan. Yr un cyfuniad yn gweithio eto, Iwan yn pasio i Shaun i sgorio'r ail gol. Chwarae da gan yr hogiau, pasio a symudiadau gwych gan greu ambell i gyfle, ond roedd gôl-geidwad Penrhos yn arbed yn dda a 2-0 oedd hi ar yr hanner.
Ar ddechrau’r ail hanner Aaron yn rhwydo wedi pas gan Jack i’w gwneud yn 3-0. O’r ail ddechrau cipiodd Penrhos gôl sydyn , 3-1. Ysbrydolodd hyn tîm Bethel a sgoriodd Gethin Bryn ddwy gol dda ac wedyn gwaith da gan Gruff yn creu gôl i Dion, a Ben yn gorffen gyda gôl wych i wneud y sgôr terfynol yn 7-1.
Ar y cyfan chwarae da gan y sgwad i gyd o’r gôl-geidwad a’r amddiffyn, i ganol cae a’r blaenwyr. Seren y gêm wythnos yma, ac ‘r oedd yna ambell un, ond y dewis oedd Shaun Owen.
Da iawn hogiau, daliwch ati.
------------------------------------------------------
Nos Wener 31 Hydref 2011
Nantlle Vale 0 - Bethel 4
Sgorwyr: Shaun Owen (2), Aaron, Sion Bullock
Cychwynnodd Bethel yn araf ac am y 10 munud cyntaf Nantlle oedd y tîm cryfaf ond amddiffyn Bethel yn gadarn. Daeth Bethel fwy fewn i'r gêm a dechrau rheoli ganol cae a chreu sawl cyfle ond amddiffyn Nantlle yn gwneud yn dda gyda gôl-geidwad Nantlle yn gwneud sawl arbediad da. Daeth y gôl gyntaf wedi croesiad da gan Gethin Bryn a Shaun Owen yn penio'n dda i'r gol. 1-0 ar yr hanner.
Meistrolodd Bethel yr ail hanner a daeth yr ail gol wedi symudiad da a gorffennwyd gyda pass wych gan Ben i Aaron a drawodd y bel heibio'r gôl-geidwad. 2-0. Daeth y drydydd wedi gwaith da gan Shaun yn rhydau Iwan lawr y dde a pan ddaeth y croesiad i'r cwrt chwech gwnaeth Siôn Bullock ddim camgymeriad. Sgoriodd Bethel y 4ydd o gic rydd wedi Jack gael ei lorio ar ymyl y blwch wedi rhediad gwych. Dion gymerodd y gic rydd a phasio nôl i Shaun a gododd y bel dros y wal i gornel uchaf y rhwyd.
Perfformiad gwych gan bob aelod o’r tîm a sawl un yn disgleirio ond seren y gêm am ei waith amddiffynnol a creadigol yng nghanol y cae oedd Ben

